Hoffai'r staff ar yr Uned Babanod Gofal Arbennig (SCBU) yn Wrecsam eich croesawu chi a'ch baban i'n huned. Mae SCBU wedi'i lleoli ar y llawr cyntaf, Uned 8, yn ymyl y ward esgor
Er mwyn cael mynediad i'r uned, bydd yn rhaid i chi bwyso'r botwm cywir ar gyfer yr uned ar y system intercom y tu allan i'r prif ddrws. Bydd staff yn gwirio eich manylion ac yn rhoi mynediad at yr uned i chi. Am ddiogelwch a diogeledd eich baban, peidiwch â chaniatáu i neb arall ddod trwy'r drws y tu ôl i chi.
Mae gan yr Uned 12 crud, un crud sefydlogi neu grud gofal dwys byrdymor, dau grud dibyniaeth uchel a naw crud dibyniaeth isel. Bydd eich baban yn derbyn gofal gan dîm o staff meddygol o dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol Paediatrig a thîm o staff nyrsio sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig gyda chymorth gweithwyr cymorth gofal iechyd, allgymorth y newydd-anedig, therapydd iaith a lleferydd, ffisiotherapydd a llawer o weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y Tîm i roi cymorth i Wasanaeth y Newydd-anedig. Mae gennym wirfoddolwr BLISS sy'n dod i'r uned bob dydd Mercher rhwng 10am a 12pm ac sy'n rhoi cymorth emosiynol.
Mae croeso i chi ymweld â'r Uned neu i'w ffonio ar unrhyw adeg. Byddwn yn trafod ein polisi ymweld gyda chi gan ystyried eich anghenion a'ch dymuniadau ac yn rhoi rhif ffôn i chi y gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â'r Uned yn uniongyrchol. Ar ôl i'ch baban gael ei dderbyn i'r uned a'ch bod wedi cyfarfod â'r staff sy'n gofalu amdanoch fel teulu, byddwn yn cynnig taith o amgylch ein Huned i chi. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw aelod o staff.
Rydym yn annog rhieni i ddod yn bartneriaid gofal gyda ni. Byddwch yn cael cymorth gyda'ch dewisiadau bwydo ac i ddatblygu eich sgiliau i ofalu am eich baban o adeg derbyn hyd at baratoi i'ch rhyddhau adref. I'r rhai sydd wedi dewis bwydo ar y fron neu i odro'r fron, mae gennym bympiau bron cludadwy y gallwch eu benthyca'n rhad ac am ddim yn ystod arhosiad eich baban ar ein Huned.
Mae ein llety i rieni wedi'i leoli ar yr uned ac mae gennym dair ystafell ar gael. Mae croeso i chi wneud cais i aros yn ein llety i rieni, sy'n cael ei ariannu gan ein helusen CHERISH. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i fodloni eich cais gan ddibynnu ar gyfraddau llenwi.
Mae gennym ystafell deuluoedd ar yr Uned, ac mae croeso i chi ei defnyddio. Mae cyfleusterau cegin ar gyfer bwyd a diodydd poeth, set deledu a man chwarae bach i frodyr a chwiorydd. Mae croeso i chi ddod â diodydd poeth i'r Uned, ond rydym yn gofyn i chi ddefnyddio cwpan â chaead arni wrth fynd â diodydd poeth at ymyl crud eich baban.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Uned am wybodaeth – 01978 725880/725023.
Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.