Rydym yn eich cydnabod chi fel y bobl bwysicaf ym mywyd eich baban, ac i'ch helpu chi i ddarparu gofal ar gyfer eich baban, rydym yn rhoi rhaglen ar waith o'r enw Gofal Integredig i Deuluoedd.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn cymorth a chefnogaeth dros amser i wneud y canlynol:
Gwyddom y gallai hon fod yn adeg ofidus a brawychus i chi felly byddwn yn treulio amser gyda chi'n addysgu'r holl bethau hynod bwysig hyn i chi pan fydd yr adeg yn iawn i chi a'ch baban.
Yn ystod y dyddiau cynnar ar uned y newydd-anedig, yn aml, bydd rhieni'n meddwl nad oes dim y gallant ei wneud dros eu baban a gallant deimlo eu bod yn aneffeithiol. Ni allai hyn fod ymhellach oddi wrth y gwir. Os gallwch fod yno gyda'ch baban, rydym wrthi'n rhoi cyngor rhagweithiol o ran datblygiad eich baban. Gall addasu i fywyd y tu allan i'r groth fod yn anodd iawn ar y dechrau, ond mae'ch baban yn gyfarwydd â'ch llais, eich cyffyrddiad a'ch arogl, felly byddem yn eich annog i dreulio cymaint o amser gyda'ch baban/babanod â phosibl er mwyn gofalu amdano/amdanynt. Ein cyfrifoldeb ni yw eich galluogi i wneud hyn yn ddiogel a byddwn yn rhoi cymorth i chi o ran gwneud penderfyniadau am ofal eich baban. Gwyddom y bydd yn fwy anodd treulio amser gyda'ch baban os oes gennych blant eraill gartref. Er hynny, mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i gysuro eich baban e.e. godro colostrwm neu gallwch adael eitemau bach yn y crud cynnal sydd â'ch arogl arnynt er mwyn helpu i gysuro eich baban.