Rydym ni yn GPIC eisiau sicrhau bod pawb yn cael y profiad gorau posib wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. Rydym eisiau sicrhau bod lleisiau pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu clywed. Yn ogystal â hyn, rydym eisiau sicrhau bod barn pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu defnyddio i wella’r gwasanaethau
Er mwyn sicrhau ein bod ni’n clywed eich lleisiau a chefnogi newidiadau cadarnhaol, fe wnawn ni eich cefnogi chi:
Os ydych yn berson ifanc gallwch ddweud eich dweud:
Mae'r Tîm KITE bob amser yn ceisio darparu'r gofal gorau i bobl ifanc yn ein gwasanaethau ac rydym am wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr yn cael eu clywed. Rydym yn gwrando ar farn pobl ifanc a'u teuluoedd/gofalwyr i helpu i wella gwasanaethau er gwell a sicrhau bod eich profiad yn y gwasanaeth y gorau y gall fod.
Mae hon yn rôl newydd o fewn y gwasanaeth sydd wedi'i chyflwyno yn dilyn awgrymiadau gan bobl ifanc a theuluoedd, yn dilyn eu hamser yn NWAS. Mae'r Swyddog Cyswllt Cleifion/Teulu yn gweithio ochr yn ochr â thimau cleifion mewnol a chymunedol NWAS.
Gall natur yr anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu fod yn anodd i bob aelod o'r teulu, gan gynnwys brodyr a chwiorydd ac aelodau teulu estynedig am nifer o resymau gwahanol. Rôl y Swyddog Cyswllt Cleifion a Theuluoedd yw cefnogi teuluoedd i lywio drwy'r hyn a all fod yn sefyllfa heriol ac anodd i bawb; o dderbyniad hyd at ryddhau o'r Tîm Barcud (CAMHS Haen 4).
Gall y Swyddog Cyswllt Cleifion a Theuluoedd:
Yn bwysicach fyth, mae'r Swyddog Cyswllt Cleifion a Theuluoedd ar gael i wrando a gobeithio rhoi sicrwydd i bobl ifanc a theuluoedd am yr hyn sy'n digwydd.
Cysylltwch â ni ar: 03000850056
Ebost: Tina Hughes