Tîm nyrsio iechyd cyhoeddus ydym ni, sy’n cynnig cymorth a chyngor i chi a’ch teulu/gofalwyr er mwyn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial yn ystod eich blynyddoedd yn yr ysgol a thu hwnt. Efallai eich bod wedi clywed amdanom ni hefyd dan yr enw tîm nyrsio’r ysgol. Rydym yn deall nad yw pob plentyn ac unigolion ifanc yn mynd i’r ysgol am nifer o resymau. Mae rhai plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu gartref neu mewn mannau eraill ac mae eraill yn cael trafferth mynd i'r ysgol oherwydd eu hiechyd emosiynol. Er ein bod ni fel tîm iechyd cyhoeddus yn gwneud nifer o bethau, mae eich iechyd emosiynol yn bwysig i ni.
Sut ydyn ni'n eich cyrraedd chi?
Os ydych chi rhwng 4 ac 11 oed ac yn yr ysgol gynradd neu’n cael eich addysgu yn y cartref, gall eich rhieni gysylltu â ni’n uniongyrchol i gael sgwrs ar eich rhan am eich iechyd corfforol ac emosiynol a gallwn drefnu i ymweld â chi yn eich ysgol neu yn y cartref. Efallai y byddwch hefyd yn ein gweld ni yn eich ysgol leol yn cynnig chwistrell ffliw (chwistrell drwynol ffliw tetra) wrth i ni geisio eich helpu chi a’ch teulu/gofalwyr i gadw’n iach ac i’ch gwarchod.
Os ydych rhwng 11 a 18 oed, rydym yn eich ysgol uwchradd bob wythnos a gallwch alw heibio i'n gweld os ydych yn poeni am unrhyw fater iechyd corfforol, emosiynol neu rywiol. Fel arfer mae’r gwasanaeth hyn ar gael yn ystod amser cinio ac nid oes angen apwyntiad arnoch i'n gweld. Byddwch hefyd yn medru ein gweld pan fyddwn yn cynnig y brechlyn HPV ym Mlwyddyn 8 a’r brechlyn Th/IPV ym Mlwyddyn 9 wrth i ni geisio eich helpu i gadw’n iach ac i’ch gwarchod.
Os ydych chi'n cael eich addysgu gartref neu yn rhywle arall, gallwch ffonio ein hybiau i gael mynediad at ein cymorth a'n cefnogaeth.
Rydym yn deall y gall fod yn anodd siarad â rhywun nad ydych yn ei adnabod ac felly gallwch ddod â ffrind, athro neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt gyda chi i’ch cefnogi. Gallwch hefyd ddod â gwrthrych sy'n eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus.
Mae ein gwasanaethau i gyd yn gyfrinachol felly gallwch deimlo'n ddiogel pan fyddwch yn siarad â ni. Yr unig amser y byddai angen i ni rannu gwybodaeth yw pe byddem yn poeni am eich diogelwch a diogelwch eraill.
Mae gennym wasanaeth neges destun o'r enw Chat Health 07312263119 y gallwch ei gyrchu unrhyw bryd ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud ag iechyd. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i rai yn eu harddegau a phobl ifanc. Gall gymryd tua 48 awr i ni ateb eich cwestiynau, felly nid yw ar gyfer unrhyw argyfwng. Er enghraifft, gallwch anfon neges atom i gael gwybod pryd y byddwn yn eich ysgol nesaf, i ofyn cwestiynau i ni am eich iechyd neu i sgwrsio â ni os oes gennych bryderon am unrhyw beth.
Manylion cyswllt Nyrsys Ysgol Ynys Môn a Gwynedd: