Gallai eich apwyntiau fod am rhwng 15 munud ac awr, yn dibynnu ar y math o broses fyddwch chi’n ei chael. Os ydych chi’n dewis cael tawelyddion byddwch yn yr Uned am gyfnod hirach gan y bydd y cyfnod adfer i bob claf yn un awr o leiaf.
Mae nifer o ystafelloedd yn cael eu defnyddio ar unrhyw un adeg yn yr unedau hyn. Felly gallai ymddangos fel petai cleifion sydd wedi bod yn ystafell amser am lai o amser na chi’n cael eu gweld o’ch blaen chi.
Os yw’r canlyniadau ar gael byddant yn cael eu trafod gyda chi cyn i chi fynd adref. Bydd y meddyg a ofynnodd am yr ymchwiliad yn cael adroddiad yn nodi’r canlyniadau hefyd. Gwnewch yn siwr eich bod yn deall a oes angen i chi weld eich meddyg teulu neu aros am apwyntiad ysbyty cyn i chi adael yr adran.
Byddwch yn cael taflen gynghori wrth i chi adael fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud a phwy i gysylltu gyda nhw os oes gennych chi unrhyw broblemau’n dilyn eich endosgopi.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf chi a’ch bod angen cymorth cyfieithydd, medrwn ddarparu’r gwasanaeth hwn trwy gyfrwng Language Line, gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn.
Gellir trefnu cyfieithu wyneb yn wyneb mewn rhai achosion, os oes angen. Os hoffech gael y gwasanaeth hwn gadewch i ni wybod wyth diwrnod cyn eich apwyntiad, os gwelwch yn dda.
Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion yn cynorthwyo cleifion i fynd i ac o apwyntiadau ysbyty neu glinig.
Caiff cleifion sy’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn wneud trefniadau’n uniongyrchol trwy ffonio’r Ganolfan Bwcio Cludiant ar 0845 6076181. Cewch ffonio’r rhif hwn hefyd i ganfod a ydych chi’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth.
Mae’r Ganolfan Bwcio Cludiant ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau; 9am tan 5pm a dydd Gwener; 9am tan 4pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus).
Gofynnir i chi ffonio o leiaf wythnos cyn eich penodiad. Ni ellir bwcio mwy na thri mis o flaen llaw. Os ydych chi wedi cael apwyntiad brys ffoniwch y Ganolfan Bwcio Cludiant gynted ag y bo’n bosibl, os gwelwch yn dda.