Mae ein tîm endosgopi yn debygol o gysylltu gyda chi ar ôl atgyfeiriad gan eich meddyg teulu neu arbenigwr yn yr ysbyty. Mewn rhai achosion cysylltir â chi i drefnu archwiliad dilynol (e.e. oherwydd wlser ar y stumog) neu archwiliad cadw llygad (e.e. oherwydd polypau yn y coluddyn yn flaenorol).
Byddwch yn cael eich hychwanegu at y rhestr aros endosgopi unwaith y bydd ein tîm gweinyddol wedi derbyn eich manylion atgyfeirio chi. Mae’r amser aros ar gyfer pob proses yn amrywio yn dibynnu ar y math o broses a faint o frys sydd i gynnal y broses.
Os ydych chi’n datblygu unrhyw symptomau newydd ar ôl i chi gael eich atgyfeirio fe’ch cynghorir i gael rhagor o gyngor meddygol. Sylwch nad yw ein staff gweinyddol wedi derbyn hyfforddiant meddygol ac ni ddylid cysylltu â nhw dan yr amgylchiadau hyn.
Bydd ein tîm bwcio endosgopi un ai’n eich ffonio chi i’ch hysbysu am ddyddiad eich apwyntiad neu’n anfon llythyr atoch chi i ofyn i chi ffonio rhif ffôn penodol i wneud eich apwyntiad. Bydd gennych chi 14 diwrnod i ymateb i’r llythyr a ffonio’r adran. Os nad ydych chi’n cysylltu gyda ni yn ystod y cyfnod hwn bydd eich atgyfeiriad yn cael ei anfon yn ôl at y meddyg wnaeth yr atgyfeiriad.