Gall beichiogrwydd ar ôl colled fod yn achos i lawenhau, ond gall hefyd fod yn gyfnod anodd a phryderus. Trwy gynllunio’n gynnar yn ystod eich beichiogrwydd yn ogystal â chyngor a gofal cyson, mae rhieni yn cael cynnig gofod diogel i lywio’r emosiynau hyn wrth dderbyn mynediad agored at gyngor a gofal obstetreg.
Mae ein Clinig Enfys yn wasanaeth cynenedigol arbenigol sy’n cael ei gynnig i bob merch sydd newydd feichiogi ar ôl colli babi gyda beichiogrwydd blaenorol.
Rydym ni’n rhoi mynediad cynnar i deulu at gymorth yn ogystal â thawelu eu meddyliau wrth iddynt gychwyn ar eu taith beichiogrwydd nesaf.
Mae Clinigau Enfys yn cael eu harwain gan ein bydwragedd profedigaeth arbenigol sydd fel arfer â gwybodaeth yn ymwneud â cholled y teuluoedd ac sy’n gwybod y ffordd orau i’w cefnogi. Ochr yn ochr â meddyg ymgynghorol, bydd y tîm yn darparu gofal er mwyn mynd i’r afael ag anghenion emosiynol a chorfforol y teulu.
Mae’r gofal a'r cymorth sy’n cael eu darparu gan ein tîm Clinig Enfys yn ychwanegol at y gofal a gynigir gan dimau cymunedol. Rydym ni’n gweithio ar y cyd â’r timau hyn er mwyn sicrhau bod eich teulu yn cael eu gweld mor aml ag sydd eu hangen arnynt.
Rydym ni’n darparu gofal cynenedigol i’r rhai sydd wedi profi colli babi ar ôl 13 wythnos mewn beichiogrwydd blaenorol neu os yw eu babi wedi marw yn fuan ar ôl genedigaeth.
Siaradwch â’ch bydwraig gymunedol am ragor o wybodaeth yn ymwneud â chael mynediad at gymorth gan ein Clinig Enfys.
Mae eich apwyntiad clinig Enfys yn cael ei ddyrannu o pan fyddwch chi’n 16 wythnos yn feichiog.
Yn ogystal â gofal cynenedigol arferol, mae clinig ‘Tawelwch Meddwl Enfys’ hefyd ar gael i rieni er mwyn darparu gwiriadau cynenedigol neu gymorth ychwanegol os oes angen. Nid yw’r apwyntiadau hyn yn disodli gofal cynenedigol arferol, mae’r cymorth ychwanegol hwn er mwyn darparu tawelwch meddwl yn unig.
Bydd y cymorth ychwanegol yn cynnwys: