Neidio i'r prif gynnwy

Rhagsefydlu ac alcohol

Gall lleihau faint rydych yn ei yfed gael effaith enfawr ar sut rydych yn edrych ac yn teimlo - a hynny'n aml mewn mater o ychydig ddiwrnodau yn unig. Gall lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed hefyd gael effaith ar eich adferiad yn dilyn llawdriniaeth a hefyd helpu eich corff i baratoi ar gyfer unrhyw lawdriniaeth y gallech fod yn ei chael.

Mae yfed mwy na phedair uned y dydd (sy'n gyfwerth â dau beint o gwrw neu ddau wydraid mawr o win) yn dyblu eich risg o gael cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth. Bydd lleihau eich cymeriant o alcohol yn gwella iechyd eich afu, sy'n hollbwysig i iacháu ar ôl llawdriniaeth.

I gael cymorth o ran sut i gymryd camau i leihau eich cymeriant neu i roi'r gorau i yfed yn gyfan gwbl, gweler y dolenni isod.

Gall hyn fod yn anodd pan fyddwch o dan straen. Mae Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn awyddus i'ch cefnogi ac mae rhagor o wybodaeth ar gael - Exercise activities | Living With Liver Cancer.

Adnoddau a gwybodaeth defnyddiol