Meddyliwch am bwy y byddech yn teimlo'n gyfforddus i rannu eich teimladau gyda nhw. Gallai fod yn aelod o'r teulu, yn ffrind, neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n well gan rai siarad â rhywun sy'n niwtral ac nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'u gofal. Defnyddiwch yr Offeryn Hunanwerthuso Lles i ganfod pa bryd i ofyn am gymorth ac i bwy i ofyn iddynt am y cymorth hwnnw.