Mae gwasanaeth Awdioleg Plant BIPBC yn darparu gwasanaethau Awdioleg (profion clyw a rheoli nam ar y clyw) i blant sy'n byw yng Ngogledd Cymru.
Os bydd gennych bryderon ynghylch clyw eich plentyn ac yr hoffech gael cyfeiriad am brawf clyw gan Awdioleg, trafodwch eich pryderon gyda meddyg teulu eich plentyn, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol sy'n gallu trafod eich pryderon a gwneud cyfeiriad at ein gwasanaeth, yn ôl yr angen.
Caiff apwyntiadau Awdioleg Plant eu cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys:
BIPBC - Gorllewin
Ysbyty Gwynedd
Ysbyty Alltwen, Tremadog
Meddygfa Blaenau Ffestiniog
Doc Fictoria Caernarfon
Ysbyty Cymuned Dolgellau ac Abermaw
Ysbyty Cyffredinol Llandudno
Ysbyty Cefni, Llangefni
Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi
BIPBC - Canol
Ysbyty Glan Clwyd
Ysbyty Cymuned Treffynnon
Bae Colwyn - Canolfan Feddygol West End
Canolfan Plant Sir Ddinbych
Ysbyty Brenhinol Alexandra, Y Rhyl
BIPBC - Dwyrain
Ysbyty Maelor Wrecsam
Canolfan Plant Sir y Fflint
Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug
Mae BIPBC - Dwyrain hefyd yn darparu Gwasanaethau Awdioleg Plant ar gyfer Gogledd Powys ac mae clinigau'n cael eu cynnal yn Ysbyty'r Drenewydd.
I aildrefnu apwyntiad neu os bydd problemau gyda theclyn cymorth clyw neu fowld clust eich plentyn, cysylltwch â'ch adran Awdioleg leol fel a ganlyn: