Gwasanaethau Integredig Derwen
yng Ngwynedd. Mae'r Tîm yn cynnig gwybodaeth, asesiadau, ymyriadau a chefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl ag anghenion parhaus o ganlyniad i anableddau neu salwch. Nod y Tîm yw cefnogi teuluoedd, gofalwyr a’r gymuned ehangach er mwyn hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc anabl yng Ngwynedd.
Gall Derwen gynnig -
- un pwynt cyswllt ar gyfer y Tîm
- cyngor a gwybodaeth
- asesiad - yn ddibynnol ar angen
- cynllun gofal a chefnogaeth
- monitro ac adolygu rheolaidd
- hawl i asesiad o anghenion y gofalwr
Pwy all gyfeirio plentyn at Derwen?
- y plentyn neu'r unigolyn ifanc
- rhiant / gofalwr:
- gweithwyr proffesiynol (gyda chaniatâd y teulu)
Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd. Mae'r Tîm Integredig yn cynnwys Nyrsys Cymunedol (Datblygiad Plant), Seicolegwyr Clinigol, Gweithwyr Cymdeithasol, Swyddogion Gwasanaethau Cymorth, Therapydd Galwedigaethol (Addasiadau), Swyddog Gofal Cwsmer a Dyletswydd, Teuluoedd yn Gyntaf a Swyddogion Cymorth i Deuluoedd. (Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda Phediatregwyr Cymunedol, Cynrychiolwyr Addysg, Therapyddion, y gwasanaethau Niwroddatblygiadol, Ymwelwyr Iechyd a phroffesiynau perthnasol eraill).
Nod y tîm yw gweithio gyda'r plentyn/unigolyn ifanc a'i deulu mewn modd cyfannol, i ddatblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maen nhw hefyd yn darparu ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy gynnig y canlynol:
- Asesiadau Nyrsio Cychwynnol/Asesiadau Datblygiadol
- Asesiadau Ymddygiad Gweithredol - BBAT
- Llunio rhaglenni ymddygiad yn seiliedig ar Ddadansoddiad Gweithredol
- Cymryd rhan mewn Asesiadau Diagnostig fel ASD naill ai'n ffurfiol os ydyn nhw wedi'u hyfforddi, neu'n anffurfiol fel aelod o'r tîm amlddisgyblaethol â gwybodaeth am y plentyn
- Cynhyrchu, cynnal a monitro cynlluniau gofal - safonol a rhai sy'n ofynnol o dan gyfrifoldebau statudol
- Cyngor magu plant ar reoli plentyn ag anabledd dysgu – problemau cyffredin ar lefelau datblygiadol amrywiol
- Cwsg - Hylendid Cwsg, delio â phroblemau cysgu cyffredin
- Cyngor a rhaglenni ar fynd i'r toiled
- Cyfathrebu – straeon cymdeithasol, amserlenni gweledol ac ati.
- Gwaith datblygu sgiliau sylfaenol (Sgiliau Byw Dyddiol, gofal personol ac ati)
- Gwaith rheoleiddio emosiynol
- Gwaith rhywioldeb a pherthnasoedd – ymddygiad rhywiol/cymdeithasol priodol cyhoeddus/preifat ac ati
- Gwaith tyfu i fyny a chadw'n ddiogel
- Gwaith hylendid personol
- Gwaith ar y glasoed
Manylion cyswllt: -
- Arfon
Ffôn: 03000 840967
Bron Hendre, Lôn Parc Caernarfon LL55 2HP
- Dwyfor
Ffôn: 01758 704425
Swyddfeydd y Cyngor, Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli
- Meirionnydd
Ffôn: 01341 424503
Cae Penarlâg, Dolgellau LL40 1YB
E-bost: Derwen@gwynedd.llyw.cymru