Neidio i'r prif gynnwy

Gwynedd

Gwasanaethau Integredig Derwen

yng Ngwynedd. Mae'r Tîm yn cynnig gwybodaeth, asesiadau, ymyriadau a chefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl ag anghenion parhaus o ganlyniad i anableddau neu salwch. Nod y Tîm yw cefnogi teuluoedd, gofalwyr a’r gymuned ehangach er mwyn hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc anabl yng Ngwynedd.

Gall Derwen gynnig -

  • un pwynt cyswllt ar gyfer y Tîm
  • cyngor a gwybodaeth
  • asesiad - yn ddibynnol ar angen
  • cynllun gofal a chefnogaeth
  • monitro ac adolygu rheolaidd
  • hawl i asesiad o anghenion y gofalwr

Pwy all gyfeirio plentyn at Derwen?

  • y plentyn neu'r unigolyn ifanc
  • rhiant / gofalwr:
  • gweithwyr proffesiynol (gyda chaniatâd y teulu) 

Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd. Mae'r Tîm Integredig yn cynnwys Nyrsys Cymunedol (Datblygiad Plant), Seicolegwyr Clinigol, Gweithwyr Cymdeithasol, Swyddogion Gwasanaethau Cymorth, Therapydd Galwedigaethol (Addasiadau), Swyddog Gofal Cwsmer a Dyletswydd, Teuluoedd yn Gyntaf a Swyddogion Cymorth i Deuluoedd. (Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda Phediatregwyr Cymunedol, Cynrychiolwyr Addysg, Therapyddion, y gwasanaethau Niwroddatblygiadol, Ymwelwyr Iechyd a phroffesiynau perthnasol eraill).

Nod y tîm yw gweithio gyda'r plentyn/unigolyn ifanc a'i deulu mewn modd cyfannol, i ddatblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maen nhw hefyd yn darparu ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy gynnig y canlynol:

  • Asesiadau Nyrsio Cychwynnol/Asesiadau Datblygiadol
  • Asesiadau Ymddygiad Gweithredol - BBAT
  • Llunio rhaglenni ymddygiad yn seiliedig ar Ddadansoddiad Gweithredol
  • Cymryd rhan mewn Asesiadau Diagnostig fel ASD naill ai'n ffurfiol os ydyn nhw wedi'u hyfforddi, neu'n anffurfiol fel aelod o'r tîm amlddisgyblaethol â gwybodaeth am y plentyn
  • Cynhyrchu, cynnal a monitro cynlluniau gofal - safonol a rhai sy'n ofynnol o dan gyfrifoldebau statudol
  • Cyngor magu plant ar reoli plentyn ag anabledd dysgu – problemau cyffredin ar lefelau datblygiadol amrywiol
  • Cwsg - Hylendid Cwsg, delio â phroblemau cysgu cyffredin
  • Cyngor a rhaglenni ar fynd i'r toiled
  • Cyfathrebu – straeon cymdeithasol, amserlenni gweledol ac ati.
  • Gwaith datblygu sgiliau sylfaenol (Sgiliau Byw Dyddiol, gofal personol ac ati)
  • Gwaith rheoleiddio emosiynol
  • Gwaith rhywioldeb a pherthnasoedd – ymddygiad rhywiol/cymdeithasol priodol cyhoeddus/preifat ac ati
  • Gwaith tyfu i fyny a chadw'n ddiogel
  • Gwaith hylendid personol
  • Gwaith ar y glasoed

Manylion cyswllt: -

  • Arfon
    Ffôn: 03000 840967
    Bron Hendre, Lôn Parc Caernarfon LL55 2HP
  • Dwyfor
    Ffôn: 01758 704425
    Swyddfeydd y Cyngor, Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli 
  • Meirionnydd
    Ffôn: 01341 424503
    Cae Penarlâg, Dolgellau LL40 1YB 

E-bost: Derwen@gwynedd.llyw.cymru