C.A.L.D.S - Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc
Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed ag Anabledd Dysgu cyffredinol sy'n byw yn Siroedd Conwy a Dinbych.
Mae’r meini prawf ar gyfer Anabledd Dysgu fel a ganlyn:
- Meysydd o oedi datblygiadol; ac
- Anawsterau gwybyddol cyffredinol sylweddol, (IQ dan 70)
- Anawsterau cyffredinol sylweddol gyda sgiliau addasu (sy’n cynnwys cyfathrebu, gofalu amdanoch eich hun, uniaethu ag eraill, cyfarwyddo’ch hun, defnyddio adnoddau cymunedol, gwaith academaidd, ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch).
Nod y tîm C.A.L.D.S yw gweithio gyda'r plentyn/unigolyn ifanc a'i deulu mewn modd cyfannol, i ddatblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maen nhw hefyd yn cynnig ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy:
- Asesiadau cychwynnol
- Sesiynau Rheoli Gorbryder a Dicter
- Cynlluniau Cefnogi Ymddygiad
- Sgiliau Hunangymorth
- Sesiynau cadw'n ddiogel
- Defnyddio'r toiled
- Addysg rhyw a pherthnasoedd
- Cyfathrebu
Sut?
- Asesiadau ac ymyriadau
- Asesu ymddygiad
- Cynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol
- Gweithio amlasiantaethol
- Gweithio'n unigol
- Modelu strategaethau yn y cartref a'r ysgol
- Gweithio amlasiantaethol
- Pontio i wasanaethau oedolion
- Cyfeirio at asiantaethau eraill os oes angen
Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth?
- Cyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol
- Gall rhieni gyfeirio os ydyn nhw eisoes yn hysbys i'r gwasanaeth
- Gall staff addysg, iechyd a gweithwyr cymdeithasol gyfeirio
- Cynhelir cyfarfodydd cyfeirio bob dydd Mawrth
- Dan arweiniad gwasanaethau Nyrsio a Seicoleg
- Ffurflen gyfeirio CALDS
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom?
- Tystiolaeth o anabledd dysgu
- Asesiadau gwybyddol
- Asesiadau ymddygiad wedi'u haddasu
- Arwyddion o oedi gweithredu ymaddasol mewn 3 maes neu fwy fel sgiliau hunangymorth (gwisgo amdanoch neu fwyta)
Manylion cyswllt
Canolfan Blant Dinbych
Hyfrydle, Y Lawnt, Dinbych, Sir Ddinbych LL16 4ST
Ffôn - 03000 856 640
Gwybodaeth Ychwanegol
Bywyd Teuluol Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT) | Cyngor Sir Ddinbych