Neidio i'r prif gynnwy

Conwy a Sir Ddinbych

C.A.L.D.S - Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc

Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed ag Anabledd Dysgu cyffredinol sy'n byw yn Siroedd Conwy a Dinbych.

Mae’r meini prawf ar gyfer Anabledd Dysgu fel a ganlyn: 

  1. Meysydd o oedi datblygiadol; ac
  2. Anawsterau gwybyddol cyffredinol sylweddol,  (IQ dan 70)
  3. Anawsterau cyffredinol sylweddol gyda sgiliau addasu (sy’n cynnwys cyfathrebu, gofalu amdanoch eich hun, uniaethu ag eraill, cyfarwyddo’ch hun, defnyddio adnoddau cymunedol, gwaith academaidd, ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch).

Nod y tîm C.A.L.D.S yw gweithio gyda'r plentyn/unigolyn ifanc a'i deulu mewn modd cyfannol, i ddatblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maen nhw hefyd yn cynnig ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy:

  • Asesiadau cychwynnol
  • Sesiynau Rheoli Gorbryder a Dicter
  • Cynlluniau Cefnogi Ymddygiad
  • Sgiliau Hunangymorth
  • Sesiynau cadw'n ddiogel
  • Defnyddio'r toiled
  • Addysg rhyw a pherthnasoedd
  • Cyfathrebu

Sut?

  • Asesiadau ac ymyriadau
  • Asesu ymddygiad
  • Cynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol
  • Gweithio amlasiantaethol
  • Gweithio'n unigol
  • Modelu strategaethau yn y cartref a'r ysgol
  • Gweithio amlasiantaethol
  • Pontio i wasanaethau oedolion
  • Cyfeirio at asiantaethau eraill os oes angen

Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth?

  • Cyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol
  • Gall rhieni gyfeirio os ydyn nhw eisoes yn hysbys i'r gwasanaeth
  • Gall staff addysg, iechyd a gweithwyr cymdeithasol gyfeirio
  • Cynhelir cyfarfodydd cyfeirio bob dydd Mawrth
  • Dan arweiniad gwasanaethau Nyrsio a Seicoleg
  • Ffurflen gyfeirio CALDS

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom?

  • Tystiolaeth o anabledd dysgu
  • Asesiadau gwybyddol
  • Asesiadau ymddygiad wedi'u haddasu
  • Arwyddion o oedi gweithredu ymaddasol mewn 3 maes neu fwy fel sgiliau hunangymorth (gwisgo amdanoch neu fwyta)

Manylion cyswllt

Canolfan Blant Dinbych

Hyfrydle, Y Lawnt, Dinbych, Sir Ddinbych LL16 4ST           

Ffôn -  03000 856  640

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Bywyd Teuluol Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT) | Cyngor Sir Ddinbych