Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ac angen gwneud apwyntiad ar gyfer triniaeth arferol, cysylltwch â’ch practis deintyddol yn uniongyrchol.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ar hyn o bryd, gallwch wneud cais am le ar-lein os:
Gallwch ddefnyddio’r Porth Mynediad Deintyddol i wneud cais am le gyda deintydd GIG fel unigolyn a gallwch ychwanegu rhywun arall, fel plentyn o dan 16 oed. Gallwch hefyd wneud cais ar ran rhywun arall, fel aelod o’r teulu, ffrind neu rywun rydych yn gofalu amdano neu y mae gennych berthynas o ymddiriedaeth â nhw.
Dylai eich practis deintyddol blaenorol allu cynnig apwyntiad i chi os ydych chi wedi cael triniaeth gyda nhw yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Gwnewch gais am le gyda deintydd y GIG
Os nad ydych yn awyddus i wneud cais ar-lein neu os nad ydych yn gallu gwneud hynny, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion ar 03000 851234 a gadewch eich manylion cyswllt fel bod modd i aelod o dîm Ymholiadau DAP eich ffonio’n ôl. Fel arall, gallwch e-bostio BCU.DAPEnquiries@wales.nhs.uk
Os ydych yn gymwys ac yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle addas ar gael.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnig cymorth ychwanegol.
Mae argyfwng deintyddol yn golygu bod angen cymorth brys arnoch ar gyfer problem ddifrifol yn eich ceg.
Gallai hyn gael ei achosi gan bethau fel haint neu anaf deintyddol.
Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:
Os ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG, cysylltwch â’ch practis deintyddol yn uniongyrchol am apwyntiad brys.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd GIG, ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch GIG 111 Cymru.