Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol

Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru (CDS) yn cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i roi gofal a thriniaeth deintyddol i grŵp cleifion penodol, sydd ag ystod o anghenion ychwanegol cymhleth sy'n effeithio'n ddifrifol ar ddarpariaeth gofal deintyddol, nad oes modd i wasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG eu diwallu.

Pa wasanaethau y mae CDS yn eu darparu?

Rydym yn darparu gwasanaethau clinigol ar gyfer oedolion a phlant sy'n agored i niwed trwy glinigau ar draws Gogledd Cymru sy'n darparu'r ystod lawn o driniaeth ddeintyddol.

Rydym yn darparu gwasanaethau tawelu ymwybodol fel tawelu trwy fewnanadlu a mewnwythiennol ac rydym hefyd ynghlwm wrth y gwasanaethau anesthetig cyffredinol (GA) i gleifion pediatrig a chleifion gofal arbennig sy'n oedolion.

Rydym yn darparu gofal cartref gan roi gofal deintyddol yng nghartrefi cleifion eu hunain, cartrefi nyrsio a gofal preswyl, unedau adsefydlu ac ysbytai arhosiad hir i'r henoed. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer y sawl sy'n gaeth i'r tŷ a/neu'r sawl na ellir disgwyl iddynt deithio i weld deintydd er mwyn derbyn triniaeth ddeintyddol.

Mae CDS hefyd yn rhoi gofal deintyddol i garcharorion yng Ngharchar Berwyn ac mae'n cyflawni rôl bwysig o ran cefnogi rhaglenni hybu iechyd y geg a mentrau ataliol yn y gymuned.

Pwy sy'n gallu elwa ar ein gofal?

  • Plant ac oedolion sydd o dan fygythiad meddygol neu sydd ag anghenion cymhleth
  • Plant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu cymedrol neu ddifrifol
  • Plant ac oedolion sydd ag anableddau corfforol lle bo angen lefel uchel o gymorth a/neu ofal o ran eu gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys ymweliadau deintyddol.
  • Plant ac oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl lle bo tystiolaeth nad oes modd eu trin mewn lleoliad practis cyffredinol, a lle bo angen sgiliau ychwanegol.
  • Plant ac oedolion sy'n profi gofid a ffobia deintyddol anghyfartal
  • Plant ac oedolion sydd ag amhariadau gwybyddol sylweddol
  • Cleifion sy'n pwyso mwy na therfynau pwysau Practis Deintyddol Cyffredinol (hyd at 25 stôn / 158kg)
  • Cleifion lle bo angen ymweliad â'r cartref (gofal yn y cartref)
  • Plant sy'n derbyn gofal, plant mewn angen ac sy'n destun cynllun amddiffyn plant
  • Pobl sy'n derbyn adsefydlu oherwydd materion camddefnyddio sylweddau a chleifion mewn unedau diogel
  • Carcharorion yng Ngharchar Berwyn

Sut allwch chi gael mynediad at CDS?

Mae clinigau CDS yn wahanol i bractisau deintyddol y stryd fawr gan ein bod ni'n gweld cleifion trwy gyfeiriad yn unig, sy'n sicrhau bod cleifion yn derbyn eu triniaeth gan yr aelod o staff sydd â'r hyfforddiant mwyaf priodol ac yn y clinig gorau er mwyn diwallu eu hanghenion.

Ni all y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol dderbyn hunangyfeiriadau'n uniongyrchol gan gleifion

Mae cyfeiriadau'n cael eu derbyn gan y canlynol yn unig:

  • Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol
  • Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol
  • Arbenigwyr ysbyty
  • Unrhyw weithwyr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cartrefi gofal preswyl

Dylech gysylltu â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol i ofyn am gyfeiriad

Caiff yr holl gyfeiriadau am driniaeth eu sgrinio a bydd angen i gleifion fodloni ein meini prawf llym er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer ein gwasanaeth. Os cânt eu derbyn ar gyfer asesu a thrin, bydd cleifion yn cael eu dyrannu i'r clinig mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, ac efallai nad yr un agosaf fydd hyn o reidrwydd.

Ble mae CDS yn darparu triniaeth ddeintyddol? 

Sylwch, nid yw pob gwasanaeth CDS yn cael ei ddarparu ar bob safle - efallai y bydd angen i chi deithio yn dibynnu ar ba driniaeth sydd ei hangen arnoch.

Pwy sy'n gweithio yn CDS?

Mae tîm Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru yn cynnwys staff hynod fedrus yn cydweithio i ddefnyddio sgiliau gwahanol i roi gofal deintyddol i'n cleifion. Rydym yn cyflogi gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol sy'n cynnwys y canlynol:

  • Ymgynghorydd gwadd mewn deintyddiaeth bediatrig
  • Arbenigwyr mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig a Deintyddiaeth Bediatrig
  • Uwch Swyddogion Deintyddol a Swyddogion Deintyddol sydd â hyfforddiant ychwanegol mewn deintyddiaeth bediatrig, orthodonteg a gofal arbennig
  • Therapyddion Deintyddol â dyletswyddau ychwanegol gan gynnwys tawelu trwy fewnanadlu a mynediad uniongyrchol ar gyfer cleifion sydd ag anghenion hynod gymhleth
  • Nyrsys Deintyddol â chymwysterau ychwanegol - radiograffeg, tawelu ymwybodol, addysg iechyd y geg, orthodonteg a gofal arbennig
  • Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Deintyddol ag ystod o ddyletswyddau a sgiliau
  • Myfyrwyr deintyddol, hyfforddeion deintyddol craidd a nyrsys deintyddol dan hyfforddiant