Cefnogi Hawliau Plant yw prif flaenoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae ein Siarter Plant newydd yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn gweithredu dull sy’n seiliedig ar hawliau ym mhopeth a wnawn.
Mae tua 192,000 o blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru! (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2021)
Trwy ein Siarter, rydym ni wedi gwneud chwe addewid sy'n rhoi gwybod i blant a phobl ifanc y byddant yn cael eu parchu, eu clywed, eu cefnogi a'u hysbrydoli wrth dderbyn gwasanaethau iechyd ac rydym ni’n addo cefnogi plant a phobl ifanc i dyfu i fod yn iach, yn hapus a'r cyfan y gallant fod.
A oeddech chi’n gwybod, ym 1998, cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) ei fabwysiadu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a gosododd Llywodraeth Cymru hawliau plant yn gyfraith ar 17 Mawrth 2011 trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011?
Gwyddom o ymgysylltu diweddar nad yw plant a phobl ifanc bob amser yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac weithiau nid ydynt yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud penderfyniadau a dewisiadau. Er bod yr holl hawliau’r un mor bwysig â’i gilydd, rydym ni’n rhoi pwyslais arbennig ar Erthygl 12 o UNCRC.
Mae Erthygl 12 yn datgan bod ‘y plentyn sydd â’r gallu i ffurfio ei farn ei hun yr hawl i fynegi'r farn honno'n rhydd ym mhob mater sy'n effeithio ar y plentyn, bod barn y plentyn yn cael pwysau dyladwy yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd y plentyn'.
Mae hyn yn golygu bod yr hawl gennych chi i gael gwrandawiad ac y byddwn ni bob amser yn ystyried eich barn mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi.
A oeddech chi’n gwybod bod gan Gymru Gomisiynydd Plant! Ond beth mae Comisiynydd Plant Cymru yn ei wneud?
I ddod i wybod mwy am hawliau plant a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, defnyddiwch y dolenni isod: https://www.complantcymru.org.uk/.