Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Ieuenctid

Rydym ni’n datblygu llais ieuenctid cryfach i gefnogi ein tîm arweinyddiaeth wrth wneud penderfyniadau am y gofal iechyd y mae plant a phobl ifanc yn ei gael.

Rydym ni’n bwriadu ffurfio bwrdd ieuenctid lle gall pobl ifanc o Ogledd Cymru gael llais mewn prosesau gwneud penderfyniadau allweddol, gweithredu newid a gwella gwasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd.

Bydd y Bwrdd Ieuenctid yn cynnwys gwirfoddolwyr ifanc sydd â phrofiad helaeth mewn gwasanaethau iechyd a chysylltiad i’w cymunedau lleol ar draws siroedd Gogledd Cymru. Bydd pobl ifanc yn cael eu grymuso i ddod â'u profiadau a'u llais i gynllunio, datblygu, monitro a gwerthuso gwasanaethau iechyd.

 

MAE’R BWRDD IEUENCTID WRTHI’N CAEL EI DDATBLYGU AR HYN O BRYD. BYDD GWYBODAETH BELLACH YN CAEL EI HYCHWANEGU WRTH I’R BWRDD IEUENCTID DDATBLYGU.