Neidio i'r prif gynnwy

Arweinyddiaeth Ieuenctid

Rydym ni’n sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn y ffordd yr ydym ni’n darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd.

Rydym ni wedi ymrwymo i wella profiad cleifion drwy wrando, ymgysylltu ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr ym mhob agwedd ar wella gwasanaethau, gofal a chymorth a chyfathrebu.

Rydym ni’n dymuno ymgysylltu â phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr wrth gynllunio, datblygu, cyflwyno, monitro a gwerthuso gwasanaethau. Er mwyn gallu cyflawni hyn, rydym ni’n datblygu’r prosesau, ystyriaethau diogelwch, hyfforddiant a’r cymorth cywir (ochr yn ochr â phobl ifanc) sydd eu hangen i sicrhau bod plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr yn gallu ymgysylltu a chymryd rhan ar draws Gogledd Cymru.

Fel plentyn neu unigolyn ifanc, gallwch chi gymryd rhan mewn sawl agwedd ar ddarparu gwasanaethau o gyfweld â staff, darparu hyfforddiant, ymgynghori ar wasanaethau newydd neu wella a rhannu eich profiadau i gefnogi sut yr ydym ni’n newid. Gall ymgysylltu fod yn ffordd wych i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr ddysgu a datblygu sgiliau newydd, ennill profiad ar gyfer eu cyflogaeth yn y dyfodol, 'rhoi'n ôl' i sefydliad a helpu eu cymuned leol. Gall y sefydliad hefyd elwa o'r amser, y cymorth a'r sgiliau y gellir plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr eu cynnig, yn enwedig gan fod eu profiadau eu hunain yn amhrisiadwy.

Mae Arweinyddiaeth Ieuenctid yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei hychwanegu wrth i gyfleoedd arweinyddiaeth gael eu datblygu.

I gofrestru eich diddordeb, defnyddiwch y ddolen ganlynol i gwblhau’r ffurflenni gofynnol.