Neidio i'r prif gynnwy

Siarter Plant

Rydym ni wedi ymrwymo i ddiogelu a chefnogi hawliau plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Rydym ni eisiau i blant a phobl ifanc gael eu cynnwys yn llawn yn y penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal iechyd ac i deimlo y gallant rannu eu dymuniadau a’u safbwyntiau gyda’n staff a’n gwasanaethau. Rydym ni wedi gweithio gyda dros 2,000 o blant a phobl ifanc er mwyn creu ein Siarter Plant, gan wrando ar eu lleisiau a’u teimladau. Mae hyn wedi ein helpu ni i greu Siarter a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth yn awr ac yn y dyfodol.

Ein Siarter yw ein haddewidion i blant a phobl ifanc. Dyma’r pethau y dylai pob plentyn ac unigolyn ifanc eu gweld a’u disgwyl gennym ni pan maent yn cael gofal a chymorth gan ein gwasanaethau iechyd.

Llyfr Ryseitiau

Yr hyn sy’n bwysig i Blant a Phobl Ifanc

Hawliau Plant
Hwb Dechrau Gorau - Cyn Cenhedlu, Beichiogrwydd, Blynyddoedd Cynnar a Theulu

Genedigaeth, gwasanaethau cymunedol, bwydo ar y fron, diddyfnu a chymorth i deuluoedd.

Bwrdd Ieuenctid
Arweinyddiaeth Ieuenctid