Bob gaeaf byddwn yn clywed am wardiau ysbyty yn gorfod cau oherwydd Norofirws neu 'afiechyd chwydu'r gaeaf' fel y caiff hefyd ei adnabod.
Mae unrhyw le y bydd llawer o bobl yn cymysgu gyda'i gilydd yn amgylchedd delfrydol i'r firws ledaenu, a dyna pam fod y salwch yn arbennig o gyffredin mewn ysbytai, ysgolion, cartrefi nyrsio ac ar longau mordaith.
Oeddech chi'n gwybod?
- Gall Norofirws ddigwydd unrhyw adeg o'r flwyddyn
- Firws ydyw a dyna yw achos mwyaf cyffredin byg ar y stumog (gastroenteritis)
- Nid yw gwrthfiotigau yn lladd Norofirws. Dim ond yn erbyn heintiau bacteriol maen nhw'n effeithiol
- Ni ddylech gymryd moddion i atal dolur rhydd oherwydd gall wneud i'r salwch bara'n hirach trwy gadw'r firws yn y corff
- Rydych wedi'ch heintio o'r foment yr ewch yn sâl tan ddeuddydd ar ôl i chi deimlo'n well
Gallwch dal Norofirws drwy:
- Gyswllt â rhywun sydd wedi'i heintio
- Cyffwrdd arwynebau neu bethau halogedig
- Bwyd a diod halogedig h.y. pysgodyn cragen heb ei olchi
Er na fydd modd osgoi'r haint bob amser, mae yna gamau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i'w atal rhag lledaenu:
- Arhoswch adref gan osgoi cyswllt â phobl eraill am 48 awr ar ôl i'ch symptomau glirio. Os oes gennych gyflwr iechyd arall fel diabetes neu glefyd yr arennau, rhaid i chi ffonio eich meddyg ar unwaith, neu os yw'n digwydd tu allan i oriau, ffoniwch Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu Gogledd Cymru ar 0300 123 55 66 neu GIG 111 Cymru ar 0845 46 47
- Os yw eich symptomau yn para mwy na 4 diwrnod, neu os ydych yn dechrau teimlo'n waeth, cysylltwch â GIG 111 Cymru ar 0845 46 47. Peidiwch â mynd at eich Meddyg Teulu nac i'r Adran Achosion Brys lle mae yna bobl eraill
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr ac yn aml gyda sebon a dŵr cynnes o'r tap (yn enwedig ar ôl bod yn y toiled neu cyn trin bwyd)
- Peidiwch â mynd ati i baratoi bwyd
- Mae natur ffrwydol y symptomau yn golygu y gall y firws halogi arwynebau cyfagos. Dylid diheintio toiledau a'r pethau o'u cwmpas, fel handlenni tynnu dŵr a thapiau, yn aml. Os oes gennych fwy nag un toiled, defnyddiwch yr un agosaf a gofynnwch i weddill y teulu sydd heb ei ddal ddefnyddio'r llall
- Dylid golchi dillad gwely, tyweli a dillad sydd wedi baeddu ar y tymheredd poethaf posib
- Dylid golchi llestri ac offer cegin mewn peiriant neu'n ofalus â llaw
- Dylid cadw'r gegin yn hynod o lân
- Dylid coginio bwyd yn drwyadl a golchi ffrwythau a llysiau ffres cyn eu bwyta