Neidio i'r prif gynnwy

Norofirws

Bob gaeaf byddwn yn clywed am wardiau ysbyty yn gorfod cau oherwydd Norofirws neu 'afiechyd chwydu'r gaeaf' fel y caiff hefyd ei adnabod.

Mae unrhyw le y bydd llawer o bobl yn cymysgu gyda'i gilydd yn amgylchedd delfrydol i'r firws ledaenu, a dyna pam fod y salwch yn arbennig o gyffredin mewn ysbytai, ysgolion, cartrefi nyrsio ac ar longau mordaith.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Gall Norofirws ddigwydd unrhyw adeg o'r flwyddyn
  • Firws ydyw a dyna yw achos mwyaf cyffredin byg ar y stumog (gastroenteritis)
  • Nid yw gwrthfiotigau yn lladd Norofirws.  Dim ond yn erbyn heintiau bacteriol maen nhw'n effeithiol
  • Ni ddylech gymryd moddion i atal dolur rhydd oherwydd gall wneud i'r salwch bara'n hirach trwy gadw'r firws yn y corff
  • Rydych wedi'ch heintio o'r foment yr ewch yn sâl tan ddeuddydd ar ôl i chi deimlo'n well

Gallwch dal Norofirws drwy:

  • Gyswllt â rhywun sydd wedi'i heintio
  • Cyffwrdd arwynebau neu bethau halogedig
  • Bwyd a diod halogedig h.y. pysgodyn cragen heb ei olchi

Er na fydd modd osgoi'r haint bob amser, mae yna gamau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i'w atal rhag lledaenu:

  • Arhoswch adref gan osgoi cyswllt â phobl eraill am 48 awr ar ôl i'ch symptomau glirio. Os oes gennych gyflwr iechyd arall fel diabetes neu glefyd yr arennau, rhaid i chi ffonio eich meddyg ar unwaith, neu os yw'n digwydd tu allan i oriau, ffoniwch Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu Gogledd Cymru ar 0300 123 55 66 neu GIG 111 Cymru ar 0845 46 47
  • Os yw eich symptomau yn para mwy na 4 diwrnod, neu os ydych yn dechrau teimlo'n waeth, cysylltwch â GIG 111 Cymru ar 0845 46 47. Peidiwch â mynd at eich Meddyg Teulu nac i'r Adran Achosion Brys lle mae yna bobl eraill
  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr ac yn aml gyda sebon a dŵr cynnes o'r tap (yn enwedig ar ôl bod yn y toiled neu cyn trin bwyd)
  • Peidiwch â mynd ati i baratoi bwyd
  • Mae natur ffrwydol y symptomau yn golygu y gall y firws halogi arwynebau cyfagos. Dylid diheintio toiledau a'r pethau o'u cwmpas, fel handlenni tynnu dŵr a thapiau, yn aml. Os oes gennych fwy nag un toiled, defnyddiwch yr un agosaf a gofynnwch i weddill y teulu sydd heb ei ddal ddefnyddio'r llall
  • Dylid golchi dillad gwely, tyweli a dillad sydd wedi baeddu ar y tymheredd poethaf posib
  • Dylid golchi llestri ac offer cegin mewn peiriant neu'n ofalus â llaw
  • Dylid cadw'r gegin yn hynod o lân
  • Dylid coginio bwyd yn drwyadl a golchi ffrwythau a llysiau ffres cyn eu bwyta