Mae llawer o bobl yn gyfforddus yn trin salwch cyffredin fel peswch, annwyd, neu ddolur gwddf. Mae gofalu am fân bryderon iechyd eich hun nid yn unig yn eich helpu i gael adferiad cyflym ond mae hefyd yn lleddfu pwysau ar ein gwasanaethau, gan alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i roi mwy o amser i'r rhai sydd ei angen. Y rhai sydd fwyaf mewn perygl oherwydd y tywydd oer yw: pobl sy'n 65 oed ac yn hŷn, babanod a phlant o dan 5 mlwydd oed, pobl ar incwm isel (na fyddant o bosibl yn gallu fforddio costau gwresogi), pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor, pobl sydd ag anabledd, merched beichiog, a phobl sydd â chyflwr iechyd meddwl.
Gall yr adeg yma o'r flwyddyn achosi i broblemau iechyd waethygu a gall arwain at gymhlethdodau difrifol. Mae'r tywydd oer yn gwaethygu risg hypothermia, asthma a COPD yn enwedig ymysg yr henoed, yn ogystal â gwaethygu risg anaf fel llithro neu syrthio pan fo'r tywydd yn rhewllyd. Gall misoedd y gaeaf gael effeithiau negyddol ar fywyd o ddydd i ddydd, yn enwedig i'r rhai sydd eisoes yn agored i niwed o ganlyniad i'w hoedran, salwch neu anabledd.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn teimlo'n sâl, mae nifer o wasanaethau ar gael sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar draws Gogledd Cymru. Mae'n ddoeth ymgyfarwyddo â'r wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau iechyd sydd ar gael yn eich ardal chi, cyn bod angen hynny ar eich teulu a'ch ffrindiau chi: