Iechyd meddwl amenedigol yw iechyd emosiynol, meddyliol a lles merched a’u plant, partner a theuluoedd hyd at un flwyddyn yn dilyn genedigaeth plentyn.
Os oes gennych hanes cyfredol neu flaenorol o iechyd meddwl difrifol, dywedwch wrth eich Meddyg Teulu neu fydwraig unwaith i chi ganfod eich bod yn feichiog fel y gallant gynnig y lefel gywir o gymorth.
Os ydych yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer eich iechyd meddwl ac yn beichiogi, mae’n ddoeth peidio rhoi’r gorau i’w gymryd yn sydyn. Ceisiwch arweiniad gan eich Meddyg Teulu neu ymarferydd iechyd meddwl, a fydd yn trafod manteision meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd ac unrhyw beryglon posibl gyda chi er mwyn i chi wneud dewis gwybodus ynglŷn â’ch gofal.