Mae’r wybodaeth ganlynol yn dod gan yr NSPCC.
Eich helpu i aros yn ddigynnwrf a thawelu eich babi
Gall bod yn rhiant fod yn brofiad anhygoel ac un sy’n peri straen ar yr un pryd. Mae aros yn ddigynnwrf a gallu tawelu eich babi sy’n crio yn gwneud gwahaniaeth mawr. Gall gymryd amser i chi ddod i adnabod personoliaeth eich babi a’r hyn y mae’n ei hoffi. I’ch helpu, rydym wedi rhestru pethau y gallwch roi cynnig arnynt i dawelu eich babi pan fydd yn crio.
Nodwch os gwelwch chi’n dda na ddylai babi gysgu ar gobennydd hyd nes eu bod yn 1 oed neu drosodd.
Pan fydd eich babi wedi cynhyrfu neu’n crio, ceisiwch ei siglo’n ysgafn:
Mae babanod yn wastad yn symud o gwmpas yn y groth, felly gall symudiadau araf ac ymlaciol roi llawer o gysur iddynt.
Mae pob babi’n wahanol, felly rhowch gynnig ar bethau gwahanol i weld beth mae’ch babi yn ei hoffi.
Gallwch ei ddal:
Bydd cadw eich babi’n agos atoch yn ei helpu i deimlo’n ddiogel.
Os yw eich babi’n aflonydd neu’n crio, ewch ag ef allan am dro bach. Weithiau bydd babanod yn hoffi teimlo’r aer ar eu hwynebau. Gall taith fer yn y car neu fynd ar fws fod yn ymlaciol hefyd.
Mae babanod wedi arfer clywed synau ysgafn a rhythmig y tu mewn i’r groth, felly er mwyn helpu i dawelu’ch babi gallwch:
Os yw clywed eich babi’n crio’n dechrau mynd yn ormodol:
Cyn belled a bod eich babi’n ddiogel, canolbwyntiwch ar aros yn ddigynnwrf. Ewch yn ôl dim ond ar ôl i’ch babi fynd yn dawel yn sydyn. Ni ddylech adael eich babi ar ei ben ei hun yn rheolaidd, ond weithiau mae’n bwysicach rhoi amser i chi dawelu.
Os ydych yn cael trafferth ymdopi, siaradwch â rhieni eraill, ffrindiau neu aelodau o’ch teulu. Weithiau gall clywed llais cyfeillgar neu gael syniadau newydd fod yr oll sydd ei angen arnoch.
Am fwy o wybodaeth a chyngor, ewch i wefan NSPCC.