Gall gwybodaeth am ddefnyddio meddyginiaethaucyn ac yn ystod beichiogrwydd fod yn brin, yn enwedig ar gyfer cynhyrchion newydd neu gynhyrchion nas defnyddir yn aml.
Os ydych chi'n ceisio beichiogi neu'ch bod yn feichiog, mae'n bwysig bob amser:
Cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth pan fyddwch yn feichiog, gan gynnwys poen laddwyr, gwiriwch gyda'ch fferyllydd, bydwraig, meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall a yw'n addas i chi. Mae hyn yn wir ar gyfer meddyginiaethau a ragnodir gan feddyg ac ar gyfer meddyginiaethau rydych yn eu prynu o fferyllfa neu siop.
Dylid gwneud y penderfyniad i ddechrau, stopio, parhau neu newid meddyginiaeth cyn neu yn ystod beichiogrwydd ar y cyd â'ch darparwr gofal iechyd. Ond mae hefyd yn bwysig peidio byth â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth sydd wedi'i rhagnodi i'ch cadw'n iach heb wirio gyda'ch meddyg yn gyntaf.
Bwydo ar y fron a meddyginiaethau
Os rhagnodir meddyginiaethau i chi ac rydych yn bwriadu bwydo ar y fron, holwch eich meddyg, fferyllydd, bydwraig neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Gellir cymryd y rhan fwyaf o feddyginiaethau tra'ch bod yn bwydo ar y fron heb niweidio'ch babi. Dysgwch ragor am fwydo ar y fron a meddyginiaethau, gan gynnwys meddyginiaethau y dylech ac na ddylech eu cymryd tra'n bwydo ar y fron.