Byddwch yn cael trafodaethau gyda Niwrolegydd neu Nyrs Epilepsi yn ystod eich apwyntiadau clinig yn yr ysbyty er mwyn adolygu eich epilepsi a'ch meddyginiaeth wrth-epileptig cyn i chi feichiogi. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn cynghori pa un a ddylech barhau i gymryd eich meddyginiaeth wrth-epileptig neu newid i ddewis amgen sydd â risg is i'ch babi cyn i chi geisio beichiogi.
Os nad yw'ch epilepsi dan reolaeth a'ch bod yn cael trawiadau, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyn i chi geisio beichiogi.
Mae atal cenhedlu'n bwysig os ydych am osgoi cael beichiogrwydd anfwriadol. Gall rhai meddyginiaethau gwrth-epileptig achosi i rai mathau o atal cenhedlu fethu. Siaradwch â'ch Meddyg Teulu, Niwrolegydd neu'ch Nyrs Epilepsi i drafod pa ddull atal cenhedlu fyddai orau i chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am atal cenhedlu ac epilepsi ar wefan Epilepsy Action.
Os ydych yn bwriadu beichiogi a bod epilepsi arnoch, rydym yn argymell y dylech gymryd 5mg o atchwanegiadau asid ffolig. Dylid ei gymryd hyd at dri mis cyn y beichiogrwydd er mwyn lleihau'r risg o gael babi gyda diffygion yn y tiwb niwral neu spina bifida.
Dylai'r rhai nad oes arnynt epilepsi neu nad ydynt yn cymryd cyffuriau gwrth-epileptig gymryd y dos arferol o 400 mcg o asid ffolig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am atchwanegiadau ffolig.
Cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod eich bod yn feichiog. Cewch eich cyfeirio at fydwraig, obstetregydd ac arbenigwr epilespi.
Mae'r rhan fwyaf o ferched sydd ag epilepsi yn cael beichiogrwydd normal a chanlyniadau normal i'w beichiogrwydd. Fodd bynnag, bydd rhai merched yn parhau i brofi trawiadau tra byddant yn feichiog.
Mae hefyd yn bwysig iawn na fyddwch yn rhoi'r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig gan y gallai hyn arwain at niwed i chi a'ch babi.
Yn ystod eich ymweliad â'r clinig, bydd y Niwrolegydd neu'r Nyrs Epilepsi yn adolygu eich cyffuriau gwrth-epileptig, ac efallai y bydd yn argymell y dylech barhau i gymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig presennol gan fod risg isel yn ystod beichiogrwydd ynghlwm wrth y cyffur yr ydych yn ei gymryd.
Os gwelwch eich bod yn feichiog heb dderbyn cwnsela atal cenhedlu gyda'ch Niwrolegydd neu'ch Nyrs Epilepsi, argymhellir eich bod yn gwneud y canlynol:
Gall y risgiau sy'n gysylltiedig â thrawiadau sy'n gwaethygu amrywio gan ddibynnu ar y math o epilepsi sydd arnoch, i ba raddau y cafodd eich trawiadau eu rheoli cyn beichiogrwydd, a pha gyffuriau gwrth-epileptig yr ydych yn eu cymryd.
Mae rhai o sbardunau cyffredin trawiadau epilepsi yn cynnwys anghofio cymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig a diffyg cwsg felly:
Gall trawiadau heb eu rheoli gynyddu'r risg o ddamweiniau hefyd. Mae rhagor o wybodaeth am gadw'n ddiogel ac awgrymiadau er mwyn helpu i leihau risgiau ar gael ar wefan y Gymdeithas Epilepsi.
Bydd y rhan fwyaf o ferched sydd ag epilepsi yn esgor trwy'r wain yn y modd arferol, heb gymhlethdodau. Bydd eich obstetregydd a'ch bydwraig yn siarad â chi am eich cynllun geni a beth fydd y ffordd fwyaf diogel i chi roi genedigaeth i'ch babi.