Cyn i chi feichiogi, mae'n bwysig eich bod yn bwyta deiet cytbwys iach, sy'n seiliedig ar egwyddorion y Canllaw Bwyta'n Dda. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr eich bod yn cynnwys dognau o’r maint cywir o’r holl brif grwpiau bwyd yn eich deiet yn ystod y dydd. Edrychwch ar y ddolen ar y Canllaw Bwyta'n Dda am ragor o wybodaeth.
Argymhellir hefyd fod mynegai màs y corff (BMI) yn 27kg/m2 neu lai wrth gynllunio beichiogrwydd. Os yw eich BMI yn uwch na hyn, argymhellir eich bod yn colli rhywfaint o bwysau cyn beichiogi. Mae'n bosibl i chi gael eich cyfeirio at ddeietegydd am gyngor deietegol unigol os ydych chi'n bwriadu beichiogi.
Ar ben hynny, os ydych chi'n ceisio beichiogi, mae'n bwysig eich bod chi'n cymryd atchwanegiad asid ffolig 5mg unwaith y dydd o leiaf bedair wythnos cyn cenhedlu.
Mae diabetes yn ystod beichiogrwydd yn fath o ddiabetes sy'n datblygu yn ystod beichiogrwydd.
Os cewch chi ddiagnosis o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd, mae newid eich ffordd o fyw (h.y., deiet ac ymarfer corff) yn bwysig i helpu i reoli lefelau glwcos eich gwaed, a thrwy hynny eich cadw chi a'ch babi yn iach. Dylech gael eich cyfeirio am gymorth gan y Nyrs Diabetes Arbenigol a'r tîm deieteteg, a fydd yn rhannu'r wybodaeth briodol sydd ei hangen i fonitro a rheoli eich diabetes yn ystod beichiogrwydd.
Mae'r cyngor deietegol ar gyfer diabetes yn ystod beichiogrwydd yn seiliedig ar yr egwyddorion bwyta'n iach yn ôl y Canllaw Bwyta'n Dda, ac fe'i hargymhellir trwy gydol eich beichiogrwydd. Mae bod yn ymwybodol o fwydydd sy'n effeithio ar lefelau glwcos yn y gwaed (h.y. carbohydradau â starts, carbohydradau â siwgr a siwgrau naturiol mewn ffrwythau a llaeth) yn bwysig fel y gallwch chi addasu'ch diet yn unol â hynny i helpu gyda rheoli glwcos. Argymhellir eich bod chi hefyd yn ceisio newid o fwydydd mynegai glycemig uchel i rai isel (gweler y ddolen i lawrlwytho adnoddau Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA) ar fynegai glycemig). Mae ymarfer corff ysgafn i gymedrol yn ystod beichiogrwydd i'w annog hefyd. Mae enghreifftiau o ymarfer corff ysgafn yn cynnwys cerdded neu nofio.
Argymhellir eich bod yn cymryd asid ffolig (5mg/dydd) tan wythnos 12 eich beichiogrwydd er mwyn lleihau’r risg o broblemau gyda datblygiad y babi. Cynghorir merched sy'n feichiog i gymryd atchwanegiad fitamin D dyddiol rhwng mis Medi a mis Mawrth. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cychwyn Iach, gallwch gael fitaminau am ddim tra byddwch chi'n feichiog.
Mae’r ap ‘Foodwise in Pregnancy’ yn adnodd rhad ac am ddim i’w ddefnyddio i gael gwybodaeth am fwyta’n iach a chadw’n actif yn ystod eich beichiogrwydd. Gweler y ddolen ar waelod y dudalen am fwy o wybodaeth ar sut i'w lawrlwytho.