Yn aml, mae damweiniau i fabanod a phlant ifanc yn digwydd ar wyliau pan fydd rhywbeth wedi tynnu sylw'r rhieni.
Sut i leihau'r risg o ddamweiniau ar wyliau
Dylech gymryd yr un gofal mewn llety gwyliau ag y byddwch chi gartref:
- Cadwch eich meddyginiaeth allan o olwg a chyrraedd eich babi.
- Goruchwyliwch eich babi bob amser a'i gadw draw o unrhyw ffenestri a balconïau.
Syniadau ar gyfer cadw'ch babi yn ddiogel yn yr haul a'r gwres
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw'ch babi yn ddiogel yn yr haul a'r gwres:
Diogelwch haul
Cadwch eich babi yn oer a'i amddiffyn rhag yr haul.
- Ychydig o felanin sydd gan fabanod sy'n iau na 6 mis oed yn eu croen. Dylid eu cadw allan o olau haul uniongyrchol. Melanin yw'r pigment sy'n rhoi lliw i groen, gwallt a llygaid, mae hefyd yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad rhag yr haul i'r croen.
- Dylai babanod sy'n hŷn na 6 mis hefyd fod allan o'r haul cymaint â phosibl yn enwedig rhwng 11yb a 3yp yn ystod misoedd yr haf pan fo'r haul ar ei gryfaf. Pan fyddwch chi allan gyda'ch babi, gwnewch yn siŵr bod gennych barasol, cysgod rhag yr haul, neu ymbarél ynghlwm wrth bram eich babi i'w gadw allan o olau haul uniongyrchol.
- Defnyddiwch eli haul ar groen eich babi sydd â ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 30 o leiaf. Gwiriwch fod yr eli haul yn amddiffyn rhag pelydrau UVA ac UVB. Mae cynhyrchion eli haul ar gael sydd wedi eu gwneud yn benodol ar gyfer babanod a phlant ifanc ac sy'n well i'w croen gan nad ydyn nhw'n cynnwys ychwanegion a allai greu dolur. Cofiwch roi eli haul yn rheolaidd a'i roi eto os yw'ch babi wedi bod yn y môr neu mewn pwll padlo.
- Sicrhewch bob amser fod eich babi yn gwisgo het haul gyda fflap hir neu gantel llydan i amddiffyn blaen a chefn y pen gan gynnwys y gwddf.
Cadw'n oer
Awgrymiadau ar gyfer helpu eich babi i gadw'n oer ac yn ddiogel mewn tywydd poeth.
- Mae gadael i’ch babi chwarae mewn pwll padlo yn ffordd dda o’i gadw’n oer yn yr haul a’r gwres. Cadwch y pwll yn y cysgod a pheidiwch byth â gadael eich babi heb oruchwyliaeth.
- Cyn mynd i'r gwely, gwnewch fath oer i'ch babi.
- Caewch lenni neu fleindiau ystafell wely eich babi drwy gydol y dydd. Defnyddiwch wyntyll i gylchredeg aer yn yr ystafell wely.
- Gwisgwch eich babi mewn cyn lleied o ddillad nos â phosibl.
- Cadwch lygad ar dymheredd ystafell eich babi gan ddefnyddio thermomedr meithrinfa a cheisiwch gadw'r ystafell wely rhwng 16C a 20C.
Peidiwch â dadhydradu
Mae angen i fabanod a phlant ifanc yfed digon o hylif i osgoi dadhydradu.
O 0 i 6 mis
- Nid oes angen unrhyw ddŵr ar fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron nes iddynt ddechrau bwyta bwydydd solet. Efallai y bydd babanod am gael eu bwydo ar y fron yn fwy aml nag arfer mewn tywydd poeth.
- Gellir rhoi ychydig o ddŵr sydd wedi’i ferwi a’i oeri i fabanod sy'n cael eu bwydo â photel.
O tua 6 mis
- Unwaith y byddwch wedi cyflwyno bwydydd solet i’ch babi, dylech gynnig llymeidiau o ddŵr o ficer neu gwpan gyda phrydau.
- Hyd at 12 mis oed, dylid rhoi llaeth y fron a llaeth potel fel prif ddiod. Mewn tywydd poeth, efallai y bydd angen dŵr ychwanegol ar eich babi.
O 12 mis ymlaen
- Dylech roi dŵr, llaeth y fron neu laeth potel fel prif ddiodydd i’ch babi. Yn ystod tywydd poeth, gall lolipop rhew wedi'u gwneud o ddŵr plaen a sudd ffrwythau gwan iawn helpu i beidio â dadhydradu.
- Er mwyn atal y dannedd rhag pydru, ni ddylid cynnig lolipop rhew sydd wedi ei wneud o sudd ffrwythau ond ar adeg pryd bwyd.
- Ceisiwch roi digon o ffrwythau a salad i'ch plant i gadw’r lefelau hylif yn gyson.
- Ni ddylid rhoi smwddis o sudd ffrwythau heb ei wanhau â dŵr i blant dan 5 oed gan y gallant achosi pydredd dannedd.
Cofiwch siarad â'ch meddyg teulu am faterion penodol yn ymwneud ag iechyd eich babi.
Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau