Mae cyflwyno’ch babi i ddŵr yn amser cyffrous ond mae’n bwysig eich bod yn hynod ofalus i’w gadw’n ddiogel o amgylch dŵr.
Golchi a rhoi bath i'ch babi
Nid oes angen i chi olchi'ch babi bob dydd, efallai y byddai'n well gennych chi olchi ei wyneb, ei wddf, ei ddwylo a'i ben ôl yn ofalus yn lle hynny.
Rydym yn eich cynghori i beidio ag ymolchi eich babi yn syth ar ôl bwydo, neu pan fydd yn llwglyd, neu wedi blino.
Bydd angen i chi aros gyda'ch babi drwy gydol yr amser y mae yn y dŵr.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol a phethau i’w hystyried wrth roi bath i’ch babi:
- Gwnewch yn siŵr bod yr ystafell rydych chi'n ymolchi ynddi yn gynnes.
- Sicrhewch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch yn barod gan gynnwys bath babi neu bowlen golchi llestri lân wedi'i llenwi â dŵr cynnes, dau dywel, clwt glân, dillad glân a gwlân cotwm.
- Dylai tymheredd y dŵr fod yn gynnes. Gwiriwch y tymheredd gyda'ch arddwrn neu'ch penelin cyn rhoi bath i'ch babi.
- Cadwch ben eich babi yn glir o'r dŵr. Defnyddiwch y llaw arall i roi'r dŵr yn ysgafn dros eich babi.
- Ni ddylid defnyddio seddi bath babanod gan fod risg y gallai eich babi lithro allan o’r sedd. Mae’n bwysig eich bod yn eu cynnal a’u dal bob amser os ydych yn dewis defnyddio sedd babi. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyngor diogelwch seddi bath ar wefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant.
Gweler gwefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth am ymolchi eich babi yn ddiogel.
Aros yn ddiogel o amgylch dŵr pan fyddwch chi allan
Mae’n beryglus gadael babanod a phlant ifanc heb oruchwyliaeth hyd yn oed am gyfnod byr, a hyd yn oed yn y dyfroedd basaf. Gweler gwefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Ymhlith Plant am ragor o wybodaeth am ddiogelwch dŵr yn yr ardd ac ar y traeth.
Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau