Gellir cymryd y rhan fwyaf o feddyginiaethau tra'ch bod chi'n bwydo ar y fron heb niweidio'ch babi. Mae bob amser yn well dweud wrth eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd, deintydd, fferyllydd neu fydwraig eich bod yn bwydo ar y fron pan fyddwch yn trafod meddyginiaethau. Gall rhywfaint o unrhyw feddyginiaeth a gymerwch fynd trwy laeth y fron i'ch babi. Yn gyffredinol, dim ond ychydig bach iawn sydd yn mynd i fewn i’r llaeth ac ychydig bach iawn o feddyginiaethau sy'n anniogel tra'ch bod chi'n bwydo ar y fron.
Os rhagnodir meddyginiaethau i chi tra’n bwydo ar y fron, trafodwch hyn gyda’ch meddyg, fferyllydd neu fydwraig. Dylech hefyd roi gwybod iddynt os cafodd eich babi ei g/eni'n gynamserol neu os oedd ganddo/ganddi’r clefyd melyn pan gafodd ei g/eni, oherwydd gallai hyn effeithio ar ba feddyginiaethau y gallwch eu cymryd.
Mae meddyginiaethau y gellir eu cymryd wrth fwydo ar y fron yn cynnwys:
Dylech wirio gyda fferyllydd, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd cyn cymryd unrhyw gyffuriau lladd poen arall, fel ibuprofen. Gallwch ddefnyddio rhai dulliau atal cenhedlu a rhai meddyginiaethau annwyd, ond dim pob un. Mae’n bwysig eich bod yn cael triniaeth ar gyfer iselder ôl-enedigol – gallwch wirio pa feddyginiaethau y gallwch eu cymryd gyda’ch meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu fferyllydd.
Mae'n iawn i gael triniaethau deintyddol, anesthetig lleol, brechiadau arferol (gan gynnwys brechiadau MMR, tetanws a ffliw) a'r rhan fwyaf o lawdriniaethau.
Mae meddyginiaethau cyffredin nad ydynt yn cael eu hargymell pan fyddwch chi'n bwydo ar y fron yn cynnwys:
Siaradwch â meddyg teulu neu fferyllydd cyn cymryd gwrth-histaminau ar gyfer alergeddau neu gyflyrau sy'n gysylltiedig ag alergedd, fel clefyd y gwair. Peidiwch â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaethau rhagnodedig heb siarad â'ch meddyg teulu.
Mae rhagor o wybodaeth am feddyginiaethau a llaeth y fron ar gael ar y wefan Rhwydwaith Bwydo ar y Fron