Neidio i'r prif gynnwy

Ap Second Nature

Ar gyfer oedolion â BMI 30 – 40 kg/m

Cwblhewch y Ffurflen Hunangyfeirio Rheoli Pwysau (smartsurvey.co.uk) i wneud cais am fynediad am ddim at raglen wreiddiol ap Second Nature, rhaglen rheoli pwysau ddigidol 12 wythnos y gallwch gael mynediad iddi ar ffôn clyfar neu lechen. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar dri maes sy'n arwain at newid arferion yn y tymor hir: tracio, cymorth a gwybodaeth. Mae'n defnyddio gwyddoniaeth ymddygiadol i ailhyfforddi'ch meddwl i wneud dewisiadau iach yn awtomatig, er mwyn i’r rhain aros gyda chi yn y tymor hir.

Bydd gennych fynediad at eich maethegydd cofrestredig eich hun a fydd yn cynnig cyngor un-i-un ac yn eich cefnogi i feithrin arferion newydd, iachach heb fod angen i chi wneud apwyntiad. Byddwch hefyd yn cael mynediad at grŵp cymorth cymheiriaid drwy gyfrwng yr ap.

Ar ôl i'r rhaglen gael ei chwblhau, byddwch yn parhau i gael mynediad at eich cyfrif a gallwch barhau i dracio eich cynnydd.

Gwefan Second Nature

Second Nature – Gwneud i golli pwysau deimlo’n haws