Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol

Mae'r tîm rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol yn cynnwys Meddyg Ymgynghorol, Deietegydd, Seicolegydd, Therapydd Galwedigaethol, Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol a Chynorthwyydd Therapi.

Gall tîm 'Cymorth gyda'm Pwysau' ystyried cyfeirio at y tîm amlddisgyblaethol arbenigol ar gyfer pobl sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Wedi cwblhau rhaglen KindEating, sydd wedi gwneud newidiadau i arferion bwyta a gweithgarwch corfforol a lle bo angen cymorth penodol pellach ar gyfer materion mwy cymhleth
  • BMI dros 45kg/m2
  • Wedi cael eu cyfeirio at 'Cymorth gyda'm Pwysau' gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol
  • Yn gallu mynychu apwyntiadau wyneb yn wyneb rheolaidd yn ystod oriau gwaith
  • Yn barod i ymrwymo i o leiaf rhaglen bellach o chwe mis. Mae hyn yn cynnwys cryn dipyn o ymrwymiad i newidiadau pellach i ymddygiad.

Sylwch fod angen i weithiwr gofal iechyd proffesiynol gyfeirio cleifion sydd â BMI o dros 45kg/m er mwyn sicrhau bod gennym y wybodaeth angenrheidiol i ddarparu'r cymorth priodol.

Yn dilyn asesiad, bydd y tîm amlddisgyblaethol yn cynnig rhaglen unigol yn ôl eich anghenion chi.  Gallai hyn gynnwys:

  • Gweithio gyda Deietegydd i newid patrymau bwyta
  • Therapi seicolegol
  • Gweithio gyda Therapydd Galwedigaethol i oresgyn rhwystrau at golli pwysau neu i wella lles
  • Cymryd rhan mewn grŵp i fynd i'r afael â bwyta emosiynol/gorfwyta.
  • Gweithio gyda Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol i wella gweithgarwch.
  • Apwyntiad gyda'r Meddyg Ymgynghorol, i asesu eich iechyd metabolig ac i gynnig triniaeth, os bydd angen.  

Gall y tîm ystyried cyfeirio ymlaen ar gyfer llawdriniaeth colli pwysau (bariatrig) os yw'n briodol. Ar gyfer cyfeiriad o'r fath, mae angen i unigolion ddangos cyfnod ymgysylltu gyda'r gwasanaeth arbenigol ac i ddangos eu bod yn barod ar lefel seicolegol a chorfforol i gael llawdriniaeth colli pwysau. Ar hyn o bryd, mae arhosiad hirfaith am lawdriniaeth, sy'n fwy na dwy flynedd.