Mae David, 64, wedi neidio'r rhwystrau i golli pwysau ac wedi dysgu nad yw cyn galeted i fod yn iach ag y tybiai.
Fe wnes i sylweddoli mod i angen cymorth i golli pwysau wedi llawer o lwyddiannau a methiannau dros y 45 mlynedd diwethaf. Mae problem gor-dewdra wedi bod gen i ers amser hir iawn. Roedd fy mhwysau yn cynyddu wedi pob diet roeddwn i'n ei ddilyn ac roeddwn i'n gwybod bod gen i broblem ac angen cymorth.
Flynyddoedd lawer yn ôl, fe wnaeth fy meddyg fy nghyfeirio at ddietegydd a dim ond sgwrs oedd hi a dweud y gwir ac nid oedd grŵp na llenyddiaeth ddefnyddiol ac roeddwn i'n meddwl i fy mod i wedi canfod y diet perffaith beth bynnag. Wnaeth o ddim gweithio ond allai o ddim bod yn fwy gwahanol i'r profiad hwn.
Mae'n brofiad personol, ond rydych hefyd yn elwa o weithio gyda chriw o bobl, sydd â'r un sialensiau â chi. Mae gennych i gyd nod cyffredin felly does dim barnu. Mewn llawer o ffyrdd, dyw'r dietegydd ddim ond yn gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod ac yn llywio'r drafodaeth fel y gall pob un ddysgu oddi wrth y naill a'r llall. Ac mae'r dietegydd bob amser wrth law gydag e-byst ac maen nhw'n ymateb yn gyflym i unrhyw ymholiadau. Roedd y llyfrynnau hefyd yn addysgiadol iawn ac wedi eu gosod ar y lefel gywir felly ddim yn rhy dechnegol, ond yn addysgiadol. Beth oedd yn dda oedd bod y cyfarfodydd yn atgyfnerthu'r wybodaeth yn y llyfrau ac yn helpu dealltwriaeth bellach ohonynt.
Rydym oll yn ddynol ac mae yn llawer mwy na dim ond gwybod beth i'w wneud. Dros y cwrs, fe wnaethom ni ddysgu am reolaeth dognau, gwerth maethol, y ddau yn ddefnyddiol iawn, cynghorion gan eraill yn y grŵp, y ffordd y mae eich corff yn ymateb i golli pwysau, seicoleg colli pwysau a'r seicoleg o fwyta. Roedd hefyd yn gyfrwng o ran fy helpu i wahaniaethu’r ffuglen oddi wrth y ffeithiau o ran colli pwysau. Mae cymaint o wybodaeth ar gael ac mae hi'n anodd gwybod beth i ymddiried ynddo felly mae hi'n dda ei glywed gan arbenigwyr.
Mae fy meddylfryd yn llawer mwy cadarnhaol ac rwy'n herio beth rwy'n ei fwyta neu beth yw'r dewisiadau. Rydw i wedi dechrau cerdded bum milltir y dydd ac wir yn mwynhau bod allan o'r tŷ ac yn weithgar oherwydd ei bod yn gymaint haws erbyn hyn gan fy mod i wedi colli peth pwysau. A dw i yn bendant yn gwybod nad ydw i fyth eisiau bod yn fawr eto.
Rydw i’n gaeth i fara ac wedi bod felly ers blynyddoedd lawer. Roeddwn i wedi meddwl y byddai hi'n anodd rhoi'r gorau i fwyta cymaint o fara, ond fe wnes i ddechrau gwerthfawrogi’r holl opsiynau eraill sydd ar gael. Yr holl wahanol fwydydd y gallwn i eu bwyta yn hytrach na bara ac roedd yn ymwneud â herio fy hun a'u canfod nhw.
Doeddwn i ddim yn gweld dim yn anodd gyda'r cwrs, roedd pawb yn gyfeillgar iawn, agored iawn, doedd neb yn trafod pwysau yn ystod y cyfarfodydd ac fe ddisgynodd y cyfan i'w le. Dydych chi ddim yn sylweddoli bod eich meddylfryd yn llawn rhwystrau ac esgusodion hyd nes eich bod ar y rhaglen ac rydych chi'n edrych am resymau i beidio gwneud dewisiadau iach.
Mae'n wahanol iawn. Fe ddylwn i fod yn gwisgo bresys pengliniau ond dydw i ddim oherwydd bod colli'r pwysau yn golygu y gallaf gerdded hebddyn nhw. Mae wedi fy ngrymuso i golli'r pwysau yna a gwybod mod i'n gallu ei wneud a'i gadw i ffwrdd o safbwynt iechyd, dangosodd profion gwaed flwyddyn yn ôl arwyddion o glefyd yr afu brasterog, ond yr wythnos ddiwethaf, roeddent i gyd yn arferol a doedd dim yn rhy uchel nag isel, felly mae’n teimlo'n wych i drawsnewid fy iechyd.