Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn RSV

Mae RSV yn feirws sy'n effeithio ar y frest a'r ysgyfaint, a gall achosi salwch difrifol iawn i bobl hŷn

O fis Medi 2024, bydd pobl hŷn yn cael cynnig brechlyn rhag RSV ar ôl eu pen-blwydd yn 75 mlwydd oed. Bydd y brechlyn untro hwn yn helpu i’ch diogelu rhag y risg o salwch difrifol sy'n cael ei achosi gan RSV. 

Mae'r brechlyn wedi'i brofi a'i dreialu'n llawn, ac mae'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd ledled y byd a dangoswyd ei fod yn lleihau nifer y plant ifanc sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd RSV yn sylweddol. 

Efallai y cewch eich gwahodd i dderbyn y brechlyn yn eich meddygfa neu yn un o ganolfannau brechu'r bwrdd iechyd. Cadwch lygad am eich gwahoddiad, neu am glinigau sy’n cael eu hysbysebu gan eich meddygfa, lle gellir archebu apwyntiad. 

Bydd pobl sy'n byw mewn cartref gofal neu sy'n gaeth i'r tŷ yn cael cynnig y brechlyn yn eu cartref.

Ni fydd y brechlyn yn cael ei gynnig ar yr un pryd â brechlynnau atgyfnerthu'r ffliw a COVID-19 i bobl sy'n hŷn na 75 mlwydd oed. 

Manteisiwch ar y cyfle i amddiffyn eich hun rhag y risg o salwch difrifol.

 

Brechlyn dal i fyny ar gyfer pobl 75 i 80 mlwydd oed

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pobl sy'n 75 i 80 mlwydd oed (a aned ar 1 Medi 1944 neu ar ôl y dyddiad hwnnw), yn cael gwahoddiad i gael brechlyn rhag RSV. Cynhelir y rhaglen frechu dal i fyny hon dros y 12 mis nesaf, gyda phob unigolyn cymwys yn cael cynnig y brechlyn erbyn 31 Awst 2025.

 

Rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag RSV