Mae respiratory syncytial virus (neu RSV) effeithio ar y frest a'r ysgyfaint, a gall achosi salwch difrifol iawn i bobl hŷn a phobl sydd â rhai cyflyrau iechyd
Bydd y brechlyn untro hwn yn helpu diogelu bobl sy'n 75 oed ac yn hŷn ac eraill sydd mewn mwy o risg o salwch difrifol sy'n cael ei achosi gan RSV. Nid oes angen i chi ei gael bob blwyddyn.
Mae'r brechlyn wedi'i brofi a'i dreialu'n llawn, ac mae'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd ledled y byd a dangoswyd ei fod yn lleihau nifer o bobl hŷn sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd RSV yn sylweddol. Manteisiwch ar y cyfle i amddiffyn eich hun rhag y risg o salwch difrifol.
Caiff y brechlyn RSV ei gynnig i'r grwpiau canlynol:
Mae arweiniad pellach am gymhwystra ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau RSV, COVID-19 ac y ffliw, a’r newyddion diweddaraf am ein hymgyrchau frechu, drwy’r dolenni isod.
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch eich meddygfa neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.
Os bydd angen i chi aildrefnu eich apwyntiad, dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich gwahoddiad.
Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu.