Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau COVID-19: Cymhwysedd ar gyfer pobl â system imiwnedd wannach

Oedolion â system imiwnedd wannach

Mae oedolion sy'n 16 mlwydd oed neu'n hŷn sydd â system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol yn gymwys ar gyfer brechlyn COVID-19 Gwanwyn 2025

Mae hyn yn cynnwys y bobl yn y categorïau isod yn unig.

  • System imiwnedd wannach o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth, gan gynnwys cleifion sy'n cael cemotherapi sy'n arwain at imiwnedd gwannach, cleifion sy'n cael radiotherapi radical, derbynwyr trawsblaniad organau solet, derbynwyr trawsblaniad mêr esgyrn neu fôn-gelloedd, haint HIV ar bob cam, myeloma lluosog neu anhwylderau genetig sy'n effeithio ar y system imiwnedd (e.e. IRAK-4, NEMO, anhwylder cyflenwad, SCID).
  • Unigolion sy'n derbyn therapi biolegol atal imiwnedd neu imiwnofodiwleiddio gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, anti-TNF, alemtuzumab, ofatumumab, rituximab, cleifion sy'n derbyn atalyddion kinase protein neu atalyddion PARP, ac unigolion sy'n cael eu trin ag asiantau arbed steroid fel cyclophosphamide a mycophenolate mofetil.
  • Unigolion sy'n cael eu trin neu'n debygol o gael eu trin â steroidau systemig am fwy na mis ar ddos sy'n cyfateb i prednisolone ar 20mg neu fwy'r dydd i oedolion.
  • Unrhyw un sydd â hanes o falaenedd haematolegol, gan gynnwys lewcemia, lymffoma, a myeloma.
  • Y rhai sydd angen triniaeth atal imiwnedd hirdymor ar gyfer cyflyrau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lupus erythematosus systemig, arthritis gwynegol, clefyd llidiol y coluddyn, scleroderma a psoriasis.

Nid yw pobl â chyflyrau iechyd eraill yn gymwys ar gyfer brechlyn COVID-19 Gwanwyn 2025.

Cymerwyd o Dabl 3, Pennod 14a y Llyfr Gwyrdd a Llywodraeth Cymru.

 

Plant â system imiwnedd wannach

Mae plant rhwng chwe mis a 15 mlwydd oed sydd â system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol hefyd yn gymwys ar gyfer brechlyn COVID-19 Gwanwyn 2025

Mae hyn yn cynnwys plant yn y categorïau isod yn unig.

System imiwnedd wannach o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth gan gynnwys:

  • y rhai sy'n cael cemotherapi neu radiotherapi, derbynwyr trawsblaniadau organau solet, derbynwyr mêr esgyrn neu drawsblaniadau bôn-gelloedd
  • anhwylderau genetig sy'n effeithio ar y system imiwnedd (e.e. diffygion IRAK-4 neu NEMO, anhwylder cyflenwad, SCID)
  • y rhai â malaenedd haematolegol, gan gynnwys lewcemia a lymffoma
  • y rhai sy'n cael therapi biolegol atal imiwnedd neu imiwnofodiwleiddio
  • y rhai sy'n cael eu trin neu'n debygol o gael eu trin â dosau uchel neu gymedrol o gorticosteroidau
  • y rhai sy'n cael unrhyw ddos o gyffuriau modiwleiddio imiwnedd anfiolegol drwy'r geg e.e. methotrexate, azathioprin, 6-mercaptopurine neu mycophenolate
  • y rhai â chlefydau awto-imiwn y gall fod angen triniaethau atal imiwnedd hirdymor arnynt. Dylid ystyried brechu plant sydd ar fin cael therapi atal imiwnedd cyn iddynt ddechrau eu therapi.

Nid yw plant â chyflyrau iechyd eraill yn gymwys ar gyfer brechlyn COVID-19 Gwanwyn 2025.

Cymerwyd o Dabl 4, Pennod 14a y Llyfr Gwyrdd a Llywodraeth Cymru.
 

Mwy o wybodaeth am y brechlan rhag COVID-19 y Gwanwyn

 

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau am frechu COVID-19 neu i aildrefnu eich apwyntiad brechu, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.

Mae'r ganolfan gyswllt ar agor 8am-6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Rhagor o wybodaeth am ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19.