Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn ffliw

Er mwyn lleihau’r risg o salwch difrifol, mae pobl sy’n wynebu mwy o risg o ddal y ffliw yn cael cynnig brechlyn ffliw’r GIG bob hydref a gaeaf

Mae rhaglen brechu rhag y ffliw y GIG ar gyfer 2024/25 bellach wedi dod i ben. Bydd mwy o fanylion am raglen 2025/26 yn cael eu rhannu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag y ffliw yw cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch chi yn ei ddal, a helpu atal rhag ei drosglwyddo i bobl sy'n agored i niwed.

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach.