Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleoedd ymgysylltu – dweud eich dweud

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Mae Ymgynghoriad Cynlluniau Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn canolbwyntio ar naw gwasanaeth iechyd sydd fwyaf angen cymorth ac sydd â’r nod o fynd i’r afael ag eiddilwch, gwella safonau, neu gwtogi amseroedd aros ar gyfer pobl sydd angen diagnosis a thriniaeth.

Bydd y newidiadau y maent yn dymuno eu gwneud yn seiliedig ar les pennaf pobl gorllewin Cymru a'u profiadau fel cleifion.

Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i wefan Hywel Dda: Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Gwella Gyda’n Gilydd ym Mhowys: gofyn am eich barn ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol i oedolion ym Mhowys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gofyn am farn gychwynnol ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol i oedolion ym Mhowys erbyn dydd Sul, 27 Gorffennaf 2025.

Bydd yr arolwg hwn a’r cyfle i ymgysylltu yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel o ansawdd ar gyfer Powys a sicrhau bod eu Strategaeth Iechyd a Gofal yn cael ei chyflwyno.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn awyddus i glywed gan drigolion, cleifion, teuluoedd, grwpiau gwirfoddol, partneriaid ac unrhyw un arall sy’n defnyddio eu gwasanaethau iechyd i’w helpu i gynllunio cynigion gwasanaethau iechyd yn y dyfodol.

Mae'r gwaith sy’n ymwneud â 'Gwella Gyda'n Gilydd' yn angenrheidiol i wella gofal pob claf; diogelu gwasanaethau; gwella gwydnwch lle mae pethau’n fbregus ar hyn o bryd; lleihau anghydraddoldebau ac ymateb i bwysau staffio a chyllidebol.

Cewch wybodaeth am sut i gymryd rhan ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: Gwella Gyda'n Gilydd: Ceisio'ch barn ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddyliol i Oedolion ym Mhowys | Dweud Eich Dweud Powys

Profiad Cleifion CAMHS

Ysbrydolwch eraill drwy rannu eich stori.

Gall rhannu eich straeon Iechyd Meddwl helpu i godi ymwybyddiaeth a sbarduno newid cadarnhaol i bawb.

Hoffech chi ysbrydoli eraill drwy rannu eich straeon grymusol gyda Phrofiad Cleifion CAMHS fel y gallwn rannu'r rhain gyda'n gwasanaethau a'n partneriaid ledled Gogledd Cymru i weithredu newid.

https://forms.office.com/e/4h9taJsSiE

Solihull Approach

Yn seiliedig ar lwyddiant cyrsiau Solihull Approach, ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o  gyrsiau Solihull Approach hydynoed ymhellach, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth. Bydd casglu eich sylwadau yn ein helpu i ddangos gwerth y cyrsiau wrth i ni barhau i gefnogi teuluoedd ar draws Gogledd Cymru. Ni ddylai'r ffurflen yn y ddolen isod gymryd mwy na 5 munud i'w chwblhau a bydd yn ddienw.

Dolen i’r arolwg: Cyrsiau ar lein Solihull Approach