24.02.25
Yn sgil ein gwaith i barhau i ymgysylltu ynghylch dyfodol gwasanaethau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymuned Tywyn, bydd rhagor o waith yn digwydd i fireinio'r opsiynau a gânt eu cynnwys mewn proses ymgynghori ffurfiol yn ddiweddarach eleni.
Rydym yn cydnabod bod ansicrwydd wedi parhau ers tro ac rydym yn dymuno cadarnhau mai ein blaenoriaeth yw cynnig y gofal a'r gwasanaethau gorau posibl i'r boblogaeth gyfan. Rydym wedi clywed cryfder teimladau’r gymuned am ddyfodol gwasanaethau ac rydym am sicrhau bod yr holl senarios yn cael eu harchwilio a'u datblygu'n llawn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
Bydd cynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid allweddol yn cyfranogi mewn sesiwn arall dan arweiniad hwyluswyr ym mis Mawrth i sicrhau bod yr holl opsiynau sydd ar gael yn cael eu harchwilio’n llawn, y cyfrifir eu sgorau yn briodol a’u bod yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael a'r ystod o safbwyntiau a rennir. Bydd hyn hefyd yn cynnwys opsiynau nas blaenoriaethwyd o'r rhestr hir wreiddiol yn ystod y sesiwn flaenorol.
Bydd hyn yn sicrhau y caiff y Bwrdd Iechyd yr opsiynau mwyaf seiliedig ar wybodaeth a mwyaf priodol i ystyried eu cymeradwyo ym mis Mai. Wedi hynny, bydd ymgynghoriad ffurfiol yn digwydd yn eu cylch. Disgwylir penderfyniad terfynol yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
Hoffem ddiolch i bawb am barhau i ymddiddori yn y gwaith pwysig hwn a chyfrannu ato er mwyn gallu llunio dyfodol gwasanaethau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymuned Tywyn.
Bydd yr holl wybodaeth am ein gwaith hyd yma yn parhau i gael ei diweddaru yma. Yn y cyfamser, gallwch helpu i ddatblygu'r gwaith drwy roi eich adborth yma: Cwblhewch arolwg
Os oes angen copïau papur o'r Arolwg arnoch, e-bostiwch BCU.planning@wales.nhs.uk