Mae Lleisiau Mamolaeth a Newyddenedigol yn dod â merched a’u partneriaid/teuluoedd sydd â phrofiad diweddar o wasanaethau mamolaeth, a’r rhai sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau mamolaeth, ynghyd gyda gweithwyr proffesiynol iechyd sy’n gweithio mewn gwasanaethau mamolaeth ar draws y Bwrdd Iechyd.
Rydym yn gwrando ar ein haelodau ac yn cyfrannu at ddatblygiad a darpariaeth gwasanaethau o safon i fodloni anghenion ein cymuned trwy sicrhau bod merched a’u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn.
Trwy ymuno â’n grŵp, bydd gennych y cyfle i rannu eich profiadau, eich mewnwelediadau a’ch syniadau gyda ni. Byddwch yn rhan o ymdrech gydweithredol i ddynodi a mynd i’r afael â heriau, dathlu llwyddiannau ac ysgogi gwelliannau yn y gwasanaethau mamolaeth.
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn rhan o grŵp Lleisiau Mamolaeth a Newyddenedigol, yn ddefnyddiwr gwasanaeth neu’n rhanddeiliad arall, cysylltwch â BCU.MaternityVoices@wales.nhs.uk
Ymunwch â’n grŵp Facebook Lleisiau Mamolaeth i ymuno â’r sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod safbwyntiau merched, partneriaid a theuluoedd yn cael eu clywed. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal ar-lein, ond rydym yn rhoi gwybod i aelodau os oes cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb.
Mae’r grŵp yn cynnwys:
Rydym yn gwerthfawrogi bod bob aelod yn dod â set gwahanol o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau unigryw sy’n cyfrannu at gryfder y grŵp.
Y tu allan i’n cyfarfodydd, rydym yn rhoi’r cyfle i aelodau wneud sylwadau ar ddiweddariadau i bolisïau, canllawiau a blaenoriaethau lleol a arweinir yn genedlaethol – mae gohebiaeth yn cael ei anfon yn bennaf trwy e-bost neu ein grŵp Facebook i alluogi mynediad a chyfle ar gyfer ystyriaeth ar adeg sy’n gyfleus i’n haelodau.
Os oes gennych brofiad diweddar gyda gwasanaethau mamolaeth yng Ngogledd Cymru ac os hoffech rannu eich profiad, cwblhewch y ffurflen adborth ar-lein hon.
P’un a yw eich profiad gyda’r gwasanaethau mamolaeth yng Ngogledd Cymru wedi bod yn un cadarnhaol neu os oes gennych bryderon, rydym yn croesawu eich adborth trwy’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS). Mae eich mewnbwn yn ein helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl.
Gallwch rannu eich meddyliau neu gallwch godi unrhyw broblemau gyda PALS yn uniongyrchol, neu os yw’n fwy cyfleus, gallwch gyflwyno eich adborth trwy ein ffurflen ar-lein. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i gysylltu â’n tîm PALS, yma.
Mae Myfyrio ar Enedigaeth yn wasanaeth gwrando a gydlynir gan ein tîm o oruchwylwyr clinigol ar gyfer bydwragedd. Mae ar gael i ferched sydd wedi rhoi genedigaeth, a’u partneriaid, yng Ngogledd Cymru, ac mae’n cynnig y cyfle i rannu a myfyrio ar eich profiad o wasanaethau mamolaeth.
Bydd ein tîm ymroddedig yn cymryd amser i wrando ac yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. I drefnu apwyntiad, gallwch e-bostio’r tîm isod gyda’ch manylion cyswllt, eich rhif ysbyty neu eich dyddiad geni, lle rhoddoch enedigaeth a'r dyddiad geni. Yna, bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad.
I gael mynediad at y gwasanaeth, gallwch e-bostio: BCU.BirthReflections@wales.nhs.uk
Os ydych chi'n teimlo'ch bod wedi'ch trawmateiddio neu wedi'ch effeithio'n ddwfn gan eich genedigaeth, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch Meddyg Teulu yn y lle cyntaf i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir.