Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod rhai o'n Robiniaid

 

Roedd Lucy wedi bod yn fam llawn amser i bedwar o blant, a phan ddechreuodd ei phlentyn ieuengaf yr ysgol uwchradd yn 2023, penderfynodd gofrestru ar gyfer rôl wirfoddoli. Dewisodd Lucy wirfoddoli gyda’r Robiniaid gan ei bod yn mwynhau cyfarfod â phobl newydd ac roedd ganddi angerdd dros helpu a gofalu am eraill. Ymgeisiodd Lucy i astudio bydwreigiaeth ym mis Medi 2024 ym Mhrifysgol Bangor, ac er nid yn annisgwyl, cynigiwyd lle iddi yn nhymor y Gwanwyn a dechreuodd ar y cwrs chwe mis yn gynnar. Nid oes unrhyw amheuaeth bod ei phrofiad fel gwirfoddolwr gyda’r Robiniaid wedi rhoi’r sylfaen gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

Lucy, Gwirfoddolwr y Robiniaid.

 

 

"Rwyf yn mwynhau treulio amser gyda phobl a'u helpu nhw. Hyd yn oed os yw ond mewn ffyrdd bach, rydych yn gweld eu bod yn gwerthfawrogi ychydig o gwmni a sgwrs. Rwyf wir yn mwynhau cymysgu â phobl eraill. Roeddwn yn gweithio yn y fasnach trwyddedu am 30 mlynedd, felly rwy'n gwybod sut i siarad - mae'n arfer nad ydych yn ei golli."
Neville,
Gwirfoddolwr y Robiniaid.

 

 

 

Fy enw i yw Paul. Ar ôl gweithio’n llawn amser am dros 30 mlynedd a gweithio’n rhan-amser am 8 mlynedd arall, penderfynais ymddeol yn gynnar. Gan feddwl am beth i wneud gyda fy amser, awgrymwyd i mi fod gennyf y sgiliau i wirfoddoli fel Robin yn fy ysbyty lleol. Y sgiliau hynny yw’r gallu i sgwrsio'n ddiddiwedd â phobl a gwneud diodydd poeth. Yn ystod fy holl yrfa mewn rolau gwahanol, nid wyf erioed wedi teimlo fel fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi, fy mharchu ac yn rhan wirioneddol o dîm yn fwy nag yr wyf gyda’r Robiniaid. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n hoffi helpu eraill i roi cynnig arni!

Paul, un o Wirfoddolwyr y Robiniaid.

 

 

Fy enw i yw Marharyta, er mae’r rhan fwyaf o bobl yn fy ngalw i’n Margo. Rwy’n 19 mlwydd oed ac rwy’n gwirfoddoli yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd. Rwyf wedi bod yn Wirfoddolwr gyda’r Robiniaid ers mis Awst 2024. Penderfynais ddod yn un o wirfoddolwyr y Robiniaid gan fy mod wrth fy modd yn sgwrsio ac yn helpu pobl. Mae’r profiad hwn yn cyd-fynd yn berffaith â fy amserlen ysgol ac mae’n amhrisiadwy i ddeall sut brofiad yw hi i gleifion mewn ysbytai. Rwyf eisiau dilyn gyrfa mewn meddygaeth a fy mreuddwyd yw dod yn llawfeddyg unwaith y byddaf wedi cwblhau fy hyfforddiant meddygol. Byddwn yn argymell gwirfoddoli gyda’r Robiniaid i unrhyw un sydd eisiau helpu eraill ac sydd â diddordeb mewn Gofal Iechyd.

Marharyta, un o Wirfoddolwyr y Robiniaid.

 

 

Ymunodd Eleri â’r Robiniaid ym mis Rhagfyr 2020 yng nghanol y pandemig ar ôl ymddeol o ddysgu ar ôl 38 mlynedd. Mae ei diwrnod fel arfer yn dechrau gyda sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y staff a’r cleifion. Mae hyn yn cynnwys: paratoi’r ystafelloedd clinig, sicrhau bod y peiriannau te/coffi wedi’u stocio ac agor y ffenestri. Mae’r rhan fwyaf o’i hamser yn cael ei dreulio’n siarad â chleifion a’u perthnasau, gan gynnig clust i wrando yn y Gymraeg a’r Saesneg ynghyd â chefnogi staff yn eu rolau dyddiol. “Mae fy rôl yn hynod wobrwyol a boddhaol. Rwy’n teimlo fel rhan o gymuned yn uned Alaw. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli, gwerthfawrogi a byw fy mywyd bob dydd. Yn ogystal â hynny, mae’n fy nghael o’r tŷ! Byddwn yn argymell gwirfoddoli gyda’r Robiniaid i bawb.”

 Eleri, un o Wirfoddolwyr y Robiniaid.