Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Robin

Rydym yn recriwtio i’r tîm o Wirfoddolwyr y Robiniaid!

Gwnewch gais i ymuno â’n tîm o Wirfoddolwyr y Robiniaid sy’n prysur dyfu.

Mae gennym lawer o gyfleoedd i gymryd rhan ar draws Gogledd Cymru, ni waeth beth yw eich cefndir, eich sgiliau neu’ch diddordebau. Ymunwch â ni i gefnogi ein staff a’n cleifion.

Pam gwirfoddoli gyda’r Robiniaid?
  • Dod yn rhan o dîm ymroddedig o wirfoddolwyr yn eich cymuned leol sy’n rhannu’r un weledigaeth o wella profiad pobl yn yr ysbyty.
  • Y datblygiad personol a’r boddhad wrth helpu eraill ar adeg anodd.
  • Cael cyfle i gwrdd a sgwrsio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol.
Beth mae ein Robiniaid yn ei wneud

Mae ein cynllun gwirfoddoli ysbyty yn mynd o nerth i nerth yn ein cymuned leol a’n hysbytai acíwt. Ar hyn o bryd mae gennym dros gant o wirfoddolwyr brwdfrydig yn helpu i gefnogi cleifion ar draws Gogledd Cymru

Mae Gwirfoddolwyr y Robiniaid (Robiniaid yw eu llysenw oherwydd eu crysau polo coch llachar) yn adnabyddus am eu natur gyfeillgar a'u parodrwydd i helpu eraill. 

Mae Cynllun Cyfeillio Ward y Robiniaid BIPBC wedi bodoli ers 2004 yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn ogystal, sefydlwyd ein Tywyswyr Gwirfoddol yn 2008 yn Ysbyty Maelor. Cyflwynwyd Cynllun y Robiniaid ar wardiau yn Ysbyty Maelor ac Ysbyty Gwynedd yn 2011, ac yna fe'i cyflwynwyd i'r ysbytai cymunedol. Rydym bellach yn gweithredu ar draws y Bwrdd Iechyd yn cefnogi cleifion a staff.

Prif ddyletswydd ein Robiniaid yw bod yn gymwynasgar gyda’n cleifion, gan roi o’u hamser i siarad gyda phobl.

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd ein Robiniaid yn ein cynorthwyo drwy:

  • baratoi diodydd poeth ac oer i’n cleifion
  • gwirio jygiau dŵr
  • darparu gwasanaeth darllen/ysgrifennu lle bo’n briodol
  • mynd i siop yr ysbyty
  • cynorthwyo’r staff nyrsio i wneud y gwelyau
  • helpu i storio cyflenwadau; tacluso cloeriau cleifion ymysg dyletswyddau eraill
  • Mewn rhai o'n Hysbytai mae ein Robiniaid yn cynnig gwasanaeth cyfeirio
Pwy all wirfoddoli i ddod yn Robin?

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl ddibynadwy, agos atoch ac empathetig. Os ydych yn gallu ateb un neu ragor o’r cwestiynau isod, gall ymuno â’r Robiniaid eich gweddu i’r dim. Ydych chi’n...

  • Mwynhau her newydd?
  • Mwynhau helpu eraill, bod yn gymwynasgar gyda’n cleifion neu gyfeirio ymwelwyr? 
  • Eisiau’r profiad o fod yn rhan o dîm mewn amgylchedd ysbyty?

Os ydych dros 17 oed, yn byw‘n ardal BIPBC neu’n agos, a bod gennych ychydig o oriau i'w sbario bob wythnos yn rheolaidd, yna gallai ymuno â'r Robiniaid fod yn addas i chi. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth barhaus.

 
Cysylltwch â ni

Gogledd Orllewin Cymru
Ysbytai yng Ngwynedd ac Ynys Môn

Hannah Coles
Rhif ffôn: 07789855924

Ardal y Canol, Gogledd Cymru
Ysbytai yng Nghonwy a Sir Ddinbych

Owain Rowlands
Rhif ffôn: 01745 448 740 / 07977 148 476

Gogledd Orllewin Cymru
Ysbytai Wrecsam a Sir y Fflint

Julie Parry
Rhif ffôn: 03000 848397  / 07977 689449

Rheolwr Gwirfoddoli  
Josh Sealy Peters
Rhif ffôn: 07974411324

Anfonwch e-bost atom: bcu.robins@wales.nhs.uk