Ymgymerwch â her newydd
Mae timau o Wirfoddolwyr Caplaniaeth yn cefnogi gwaith y Caplaniaid:
	- Gwirfoddolwyr Caplaniaeth Crefyddol (Ffydd) sy'n ymweld â chleifion o'r un ffydd neu grefydd sydd wedi cael eu cyfeirio atynt. Mae gennym Wirfoddolwyr Caplaniaeth Bahá, Bwdhaidd, Cristnogol, dyn a dynes mwslimaidd a paganaidd ar gael i weld eu cleifion a'u teuluoedd
 
	- Gwirfoddolwyr Caplaniaeth Fugeiliol (ysbrydol) sy'n ymweld â wardiau neu adrannau penodol gan gynnig gofal ysbrydol i'r holl gleifion nad ydynt yn ddifrifol wael. Gallant gyfeirio cleifion sydd eisiau gofal crefyddol neu a fyddai'n dymuno cael ymweliad gan Gaplan. Daw gwirfoddolwyr Caplaniaeth Fugeiliol o bob cefndir ac maent yn bobl o bob ffydd a dim ffydd
 
Mae angen i bob Gwirfoddolwr Caplaniaeth gwblhau cwrs 'Gofal Ysbrydol Gwirfoddolwyr' Cymru Gyfan sy'n cymryd 6 wythnos. Mae'r cwrs yn cynnwys megis:
	- Beth yw gofal bugeiliol, ysbrydol a chrefyddol?
 
	- Sgiliau Gwrando
 
	- Cyfrinachedd
 
	- Marwolaeth a phrofedigaeth
 
	- Ymarferoldeb ymweld â chleifion mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill
 
Cyswllt
	Wynne Roberts - Rheolwr Caplaniaid
	01248 384 095 x4095
	Wynne.Roberts@wales.nhs.uk