Mae'r Cynghrair Cyfeillion yn sefydliad elusennol sy'n cefnogi gofal a chysur i gleifion, ymwelwyr a staff ac yn ei wella. Gellir eu gweld yn Ysbyty Abergele, Ysbyty Glan Clwyd acYsbyty Maelor Wrecsam.
Sefydlwyd Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Maelor Wrecsam yn 1968. Eu hamcan yw codi arian i brynu offer, yn aml, offer arbenigol pan nad oes cyllid ysbyty ar gael. Mae'r offer yn cael ei ddefnyddio yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyfer defnydd cleifion mewnol a chleifion allanol.
Edrychwch ar wefan Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Abergele yn grŵp o bobl gyffredin sy'n rhoi o'u hamser a'u hegni i ddarparu cymorth a chodi arian. Mae eu Pwyllgor Gweithredol yn cyfarfod bob mis i ystyried anghenion y cleifion a'r ysbyty ac yn rhoi arian i helpu i brynu offer.
Edrychwch ar wefan Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Abergele.
Sefydlwyd Urdd y Cyfeillion fel sefydliad elusennol yn 1974. Ers y dyddiau cynnar hynny, mae’r Urdd wedi datblygu o fod yn sefydliad gweddol fychan i ddechrau, ac erbyn hyn, mae’n sefydliad eithaf sylweddol sy’n rhedeg siop, bar te a bwrdd gwerthu nwyddau, ac yn cynnal digwyddiadau arbennig trwy gydol y flwyddyn.
Mae ein gwirfoddolwyr ffyddlon a pharod eu cymorth yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaeth rhagorol i filoedd o gleifion, staff yr ysbyty ac ymwelwyr, ac yn ein galluogi i roddi nifer fawr o offer i’n hysbyty yn flynyddol.
Ewch i dudalen Facebook Urdd Cyfeillion Ysbyty Glan Clwyd.