Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam

Cyfeiriad: Ysbyty Maelor Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD 
Ymholiadau ffôn cyffredinol:  03000 847 847

Gwasanaethau Ysbyty

Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ysbytai ar gael yma.

Cyfleusterau 

  • Caffi sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Gwirfoddol Maelor
  • Siopau Cyfeillion Ysbyty Maelor
  • Macmillan: Gwasanaethau Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser (CISS)
  • Meysydd parcio ar y safle a llefydd parcio anabl
  • Ffreutur ac ystafell fwyta
  • Radio ysbyty
  • Peiriant twll yn y wal
  • Toiledau a chyfleusterau newid clytiau – toiledau ‘Changing Places’ achrededig 
  • Canolfan aml-ffydd

Gwybodaeth am Wardiau

Mae gwybodaeth a rhifau cyswllt ar gyfer wardiau Ysbyty Maelor Wrecsam ar gael yma. 

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Canslo eich apwyntiad ysbyty

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os na allwch ddod i'ch apwyntiad ysbyty.

Gwasanaeth Atgoffa am Apwyntiad Ysbyty

Cofrestrwch i wasanaeth atgoffa am apwyntiadau ysbyty i'ch helpu chi fel claf i gofio manylion eich apwyntiad. 

Gwybodaeth am ryddhau cleifion

Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn dychwelyd adref yn syth ar ôl derbyn gofal yn un o'n hysbytai. Caiff hyn ei drafod o fewn 24 awr i'ch derbyn i'r ysbyty, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

Sut i gyrraedd yno

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Uned Rhagsefydlu yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam ar agor ar gyfer cleifion a gyfeiriwyd ac sydd angen llawdriniaeth fawr. 
Bydd yr uned newydd yn helpu i sicrhau bod cleifion yn ddigon iach i gael eu llawdriniaeth fawr a fydd yn helpu i leihau'r risg o gymhlethdodau, yn gwella eu hadferiad ac yn helpu cleifion i fynd adref yn gynharach ar ôl y llawdriniaeth hefyd. 
Mae tîm o weithwyr proffesiynol gofal iechyd gan gynnwys anesthetyddion, ffisiotherapyddion, ffisiolegwyr ymarfer corff, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol a ffisiolegwyr anadlol i gyd yn rhan o gynllunio rhaglen bwrpasol ar gyfer pob claf a'i goruchwylio.

Cyfeiriad: 
Gwasanaeth Rhagsefydlu 
Uned 14 
Ail Rodfa 
Parc Busnes Redwither 
Wrecsam 
LL13 9XQ 

Gellir gweld lleoliad yr ysbyty yn www.streetmap.co.uk

Mewn Car: Rhowch y cyfeiriad canlynol yn eich ap map i gael cyfarwyddiadau i safle'r ysbyty: Ysbyty Maelor Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD 

Bws: Mae’r gwasanaethau bws Wrecsam canlynol yn stopio ar Ffordd Croesnewydd y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam, fodd bynnag, gwiriwch cyn teithio oherwydd gall llwybr teithio’r bysiau hyn newid neu gael eu dileu.

9, 10, 11, 12, 15a, 16, 17, 21a, 26, D42, TL, X50, X94

Am wybodaeth bellach neu i gael manylion amserlen, ewch i http://www.wrexham.gov.uk/welsh/travel/bus/index.htm neu Traveline Cymru website

Gellwch hefyd ffonio ar Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Ar y Trên: Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn llai na milltir i ffwrdd o Orsaf Gyffredinol Wrecsam a Gorsaf Ganolog Wrecsam.

Am wybodaeth bellach am amserlenni a gwybodaeth teithio ar drennau ewch i National Rail Enquiries neu Traveline Cymru.

Gellwch hefyd ffonio National Rail ar 03457 484 950 neu Traveline Cymru ar  0800 464 0000