28.06.2023
Mae cyn-swyddog yn y fyddin barhaol sy'n gweithio i gynorthwyo cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn ystod eu teithiau gofal iechyd wedi ennill un o wobrau mawreddog y lluoedd arfog.
Zoe Roberts yw arweinydd cydweithredol cyfamod y lluoedd arfog a gofal iechyd i gyn-aelodau'r lluoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cyflwynwyd gwobr Cyfamod y Lluoedd Arfog iddi hi yn Seremoni Gwobrau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru yng Nghasnewydd, y penwythnos diwethaf.
Roedd tîm mentoriaid cymheiriaid VNHSW y Bwrdd Iechyd hefyd wedi'u henwebu am wobr arall, am eu gwaith yn cynorthwyo cyn-aelodau'r lluoedd i gyrchu gwasanaethau iechyd meddwl.
Wrth drafod ei gwobr, dywedodd Zoe: “Nid wyf yn ystyried mai rhywbeth personol yw hyn. Mae'r wobr hon yn cydnabod gwaith y Bwrdd Iechyd i gynorthwyo cyn-aelodau'r lluoedd i sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau gofal iechyd, ac i gynorthwyo personél sydd ag anafiadau neu salwch sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth yn y lluoedd, fel y cânt eu blaenoriaethu ar sail eu hanghenion clinigol i gael triniaeth.
Roedd hwn yn ddathliad deublyg i Zoe, sydd wedi cael gwahoddiad i gwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gwir Anrhydeddus Steve Barclay, yn ystod derbyniad ar 4 Gorffennaf. Cynhelir y derbyniad, ar gyfer hyrwyddwyr lleol y GIG, yn 10 Stryd Downing.
Yn ystod ei gyrfa, gwasanaethodd Zoe gyda Phencadlys Brigâd Troedfilwyr 39 a Sgwadron Signalau ac Uned Cyfathrebu ar y Cyd (GI) Lluoedd Arbennig y DU (UKSF) yng Ngogledd Iwerddon.
Symudodd Zoe i dir mawr y DU i wasanaethu yn y Gatrawd Rhagchwilio Arbennig (SRR) yn Henffordd, ac oddi yno, symudodd i'r Amwythig i wasanaethu ym Mhencadlys Brigâd 143 (WM).
Cwblhaodd Zoe ei gyrfa yn y fyddin â lleoliad yn i Gosport, Hampshire, gydag Ysbyty Maes 33 (Haslar).
Ar ôl gadael y Fyddin, ymunodd Zoe â’r GIG yn Portsmouth, lle bu’n gweithio mewn rôl diogelu a oedd yn gysylltiedig â’r Panel Trosolwg o Farwolaethau Plant.
Mae’n hanu o Abergele, a dechreuodd ei gyrfa gyda’r Bwrdd Iechyd yn 2011, pan symudodd yn ôl i Ogledd Cymru a dod yn ofalwr galwadau a goruchwylydd sifft ar gyfer y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.
Yna bu Zoe yn gweithio yn swyddfa cyfarwyddwr meddygol Ardal y Canol cyn dod yn rheolwr llywodraethu'r gweithlu.
Cyn cychwyn ei rôl yn y Gydweithfa Gofal Iechyd Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, bu'n rheolwr busnes a rhaglenni yng nghyfarwyddiaeth y gweithlu.
Mae Zoe yn rheolwr siartredig ac yn anogwr a mentor cymwys, a bydd hi hefyd yn llwyddo i ganfod amser i fod yn diwtor academaidd yn ystod ei hamser sbâr.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)