Mae Uned Arennol Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei hadnewyddu'n helaeth er mwyn gwella gofal, diogelwch a lles cleifion.
Mae'r uned fodern yn darparu gwasanaethau fel triniaeth ddialysis i gleifion sydd ag afiechyd cronig yr arennau a methiant yr arennau a meddygon ymgynghorol i gyflenwi 24 awr o'r dydd.
Mae'r gwaith adnewyddu'n darparu 18 o orsafoedd triniaeth gyda gofod agored mwy cyfoes i gleifion a staff, mewn man a fu ar un adeg yn gyfyng iawn, a gwelyau, offer gofal iechyd newydd a setiau teledu unigol i bob claf, er mwyn sicrhau bod cleifion yn gyfforddus ac i wella profiad staff.
Fel rhan o'r buddsoddiad i wasanaethau arennol yn yr ardal, agorwyd uned ddialysis arennol ategol hefyd yn Yr Wyddgrug y llynedd, a fydd yn parhau i fod ar agor i gleifion er mwyn cynnal ymbellhau cymdeithasol a gwella mesurau atal heintiau.
Dywedodd Toni Hamlett, Rheolwr Gwasanaethau Arennol: "Mae'r uned newydd yn darparu gofod mwy agored, gyda digon o awyr ac sydd wedi'i goleuo'n dda, ynghyd â gwell cyfleusterau ar gyfer y nyrsys a'r cleifion, ac erbyn hyn, gallwn gynnig hunanofal dialysis a chyfleusterau therapïau cartref gwell.
"Mae'r uned wedi bod ar ei hôl hi ers cryn amser o ran cael ei huwchraddio er mwyn gwella gofal cleifion, diogelwch cleifion a lles cleifion, ac roedd wedi dod yn uned gyfyng i gleifion sy'n derbyn dialysis yn Wrecsam.
"Mae ein staff nyrsio a meddygol ymroddedig wedi dod at ei gilydd ac wedi gweithio mor galed i sicrhau bod hyn yn llwyddiant."
Mae rhaniad daearyddol unedau ar draws Gogledd Cymru yn golygu nad oes rhaid i gleifion deithio dim mwy na 30 munud i gyrraedd cyfleuster dialysis. Gyda'i gilydd, mae gwasanaeth arennol y Bwrdd Iechyd yn goruchwylio 75 o orsafoedd dialysis ar bum safle, ar gyfer poblogaeth o ryw 750,000.
Mae'r Uned Arennol yn cynnal diwrnod agored recriwtio ddydd Sul, 21 Tachwedd am 12 canol dydd tan 2pm, yng Nghanolfan Gladstone, Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'r digwyddiad recriwtio ar agor i bawb sydd â diddordeb penodol mewn nyrsys band 5, nid oes angen unrhyw hyfforddiant blaenorol, gan y caiff hyfforddiant llawn ei roi. Am ragor o wybodaeth, neu os na allwch fynychu ac yr hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uwch Brif Nyrs Clare Adamson, trwy clare.adamson@wales.nhs.uk neu ffoniwch 03000 847342.