20 Mawrth, 2024
Mae staff theatrau Ysbyty Gwynedd wedi bod yn cyfranogi mewn arbrawf i brofi pa mor ddiogel ac effeithiol yw gynau amldro.
Yn ystod pandemig COVID-19 yn sgil pryderon ynghylch cyfanswm y gwastraff clinigol oedd yn deillio o ddefnyddio gynau untro, penderfynodd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled y DU i ystyried dulliau amrywiol o leihau eu hôl troed carbon.
Yn dilyn arbrawf llwyddiannus gan yr adran Endosgopi a'r Uned Gofal Dwys yn ystod y pandemig, cychwynnodd staff y Theatrau eu defnyddio.
Dywedodd Wendy Scrase, Swyddog Trawsnewid Cynaliadwyedd Ysbyty Gwynedd. “I geisio lleihau cyfanswm sylweddol ein hallyriadau carbon a'n gwastraff, fe wnaeth sawl aelod o dîm ein theatrau gyfranogi mewn arbrawf i brofi Gynau Llawfeddygol Amldro gan gwmni Elis ym mis Ionawr.
“Fe wnaeth nyrs theatr ymgynghorol y cwmni gynorthwyo'r staff yn ystod yr arbrawf gan gynnig hyfforddiant ynghylch gwisgo, dadwisgo a gwaredu.
“Cawsom adborth gwych gan y sawl a gyfranogodd yn yr arbrawf, a dywedodd nifer o'r staff fod y gynau yn gyfforddus iawn ac y byddent wrth eu bodd yn gallu eu gwisgo trwy'r adeg yn y theatrau."
Mae’r GIG yn gyfrifol am bedwar y cant o gyfanswm ôl troed carbon y DU ac mae cyfanswm yr ynni a ddefnyddir gan theatrau llawfeddygol yn neilltuol o uchel.
Canfu'r tîm y gallai cychwyn defnyddio gynau amldro arbed £22,768 y flwyddyn, yn cynnwys arbedion o ran costau gwaredu gwastraff clinigol ac adhawlio TAW. Byddai modd arbed 11,500kg o CO2, sy'n gyfystyr â 56,991kWh o drydan neu gyflenwad trydan 11 o dai sengl am 15 mis. Mae eu canfyddiadau bellach wedi'u rhannu â'r sawl sy'n arwain y gwaith o gaffael tecstilau ar lefel Cymru gyfan.
Dywedodd yr Anaesthetegydd Ymgynghorol Dr Carsten Eickmann : “Mae gofal llawfeddygol yn faes sy'n defnyddio cyfanswm sylweddol iawn o adnoddau, ac amcangyfrifir fod ôl troed carbon gofal llawfeddygol yn y DU yn 2019 yn 5.7 miliwn tunnell fetrig o CO2.
“Mae nwyon anaesthetig, ynni a'r defnydd o eitemau untro yn enwedig yn feysydd problemus o ran cynhyrchu carbon mewn theatrau llawfeddygol.
“I sicrhau llawdriniaethau cynaliadwy, mae angen darparu gofal llawfeddygol rhagorol sy'n cynnig llawer o werth am arian mewn modd sy'n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol. Llwyddodd yr arbrawf hwn i ddangos i ni beth yw'r buddion yn sgil gwneud hynny.”