22.12.21
Gofynnwyd i ffisiotherapydd arweiniol a arloesodd bolisi gyda'r nod o ddeall toresgyrn mewn plant â symudedd cyfyngedig siarad yn Ysbyty Great Ormond Street.
Mae’r sefydliad meddygol plant enwog yn Llundain yn un o lawer sydd â diddordeb yng ngwaith Angela Wing o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cyflwynodd yr ymarferydd clinigol uwch mewn ffisiotherapi paediatreg ei thesis ynghylch toresgyrn yn ystod plentyndod mewn plant â dwysedd esgyrn isel ar gyfer ei gradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor.
Arweiniodd ei hymchwil at Betsi Cadwaladr yn dod yn fwrdd iechyd cyntaf Cymru i weithredu'r polisi newydd, gan wneud pobl yn ymwybodol o beryglon toresgyrn mewn plant â symudedd cyfyngedig oherwydd anableddau tymor hir.
Honnir hefyd mai hwn oedd y bwrdd iechyd cyntaf yn y DU i sefydlu llwybr amlddisgyblaethol clir i reoli'r plant hyn.
Mae Angela wedi cyflwyno ei gwaith i gynhadledd Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig Paediatreg a’r Gyfnewidfa Gefn Genedlaethol, sy’n cynghori ar bob agwedd ar godi a chario - ac iechyd cyhyrysgerbydol.
Mae hi wedi bod yn sgwrsio gyda nifer o ysbytai ledled Cymru, yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth i ffisiotherapyddion hosbisau a staff ysgolion arbennig.
Dywedodd: "Mae Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain wedi bod mewn cysylltiad a gofyn imi wneud rhywfaint o hyfforddiant wyneb yn wyneb ac rydym yn edrych i mewn i hyn ar hyn o bryd.
“Mae'r polisi'n berthnasol i blant ag anabledd tymor hir oherwydd nid ydynt yn sefyll ac yn rhedeg o gwmpas fel pob plentyn arall. Nid ydynt yn datblygu esgyrn cryf ac nid oeddem yn cydnabod hyn fel bwrdd iechyd.
“Yn hanesyddol, prin yw'r ymchwil yn y maes hwn, ac mae'r neges bwysig yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o'r risg fel y gallant wneud diagnosis o doresgyrn yn gynnar.
“Rwyf wedi hyfforddi fy holl ffisiotherapyddion paediatreg a ffisiotherapyddion anabledd dysgu oedolion ac mae'r holl staff yn hyfforddi i fod yn ymwybodol ohono.
“Rwy'n annog staff i rannu'r polisi hwn â theuluoedd a thrafod hyn gyda hwy. Rydyn ni'n grymuso rhieni â'r wybodaeth hon.”
Mae'n bwysig oherwydd pan fydd plant yn torri asgwrn, gall hynny arwain at bryderon diogelu yn eu cylch - ac mae diffyg gwybodaeth am y pwnc yn golygu y gall rhai rhieni wynebu amser caled wrth geisio egluro sut y cafodd eu plentyn ei anafu.
Mae ymchwil Angela yn cael ei rhannu gyda chydweithwyr yn yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol ac yn rhybuddio rhieni plant ag anableddau tymor hir y gallai hyd yn oed y gweithgareddau mwyaf cyffredin, megis chwarae, arwain at anaf.
Ychwanegodd: “Roeddwn i'n gweithio fel rheolwr ac yn ymdrin â chanlyniadau plant yn torri esgyrn a theuluoedd ddim yn cael eu cefnogi neu ddim yn gwybod am y risg honno.
“Nid ydym yn gwybod eto pam eu bod yn torri esgyrn ond mae'r polisi'n gwneud teuluoedd yn ymwybodol o'r risg, fel y gallant wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ofal eu plant.
“Mae parlys yr ymennydd yn un o'r rhai cyffredin iawn ond mae'n ymwneud fwy neu lai a phob plentyn sydd ddim yn sefyll oherwydd anabledd tymor hir.”